Page 18 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 18

 18
 2.2.1 Bodolaeth Bylchau Sgiliau
Gellir casglu o wybodaeth uniongyrchol fod 46% o'r busnesau a arolygwyd yn profi heriau o ran sgiliau. Mae'r heriau sgiliau hyn yn fwyaf amlwg o fewn y sectorau adeiladu, iechyd a gofal cymdeithasol, hamdden a thwristiaeth, a deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch.
Nododd 59% o'r rheini sy'n profi heriau o ran sgiliau fod ‘y sgiliau neu wybodaeth arbenigol sydd eu hangen i gyflawni'r rôl’ yn faes sgiliau roeddent wedi profi heriau oddi fewn. Dilynwyd hyn gan ‘sgiliau cyfathrebu' a ‘datrys problemau’.
2.2.2 Ansymudedd Llafur
Mae ansymudedd llafur yn ymwneud â diffyg symudiad llafur i’r lle mae'r galw mwyaf amdano. Mae recriwtio a chadw staff yn fesurau effeithiol ar gyfer ansymudedd llafur.
Adroddwyd bod recriwtio yn her ar gyfer 45% o'r busnesau a arolygwyd (384), gyda'r prif effeithiau yn cael eu hadrodd fel ‘llwyth gwaith uwch ar gyfer staff eraill’, ‘colli staff sydd wedi'u hyfforddi i sefydliadau eraill’ a ‘profi cynnydd mewn costau gweithredu’.
Mae Cymru yn gyffredinol yn dioddef o'r hyn a elwir yn ‘draen dawn’, lle mae unigolion â sgiliau yn gadael Cymru i symud i genhedloedd cyfagos. Rhwng 2013 a 2016, daeth 23,807 o raddedigion i Gymru. Fodd bynnag, ymadawodd 44,335 â'r wlad, gan arwain at ostyngiad o 20,528 o raddedigion â sgiliau dros gyfnod o dair blynedd. 8
Mae'n hanfodol fod Cymru yn gyffredinol – ac, yn wir, y rhanbarth – yn cael ei hamlygu a'i hyrwyddo am ei phriodoleddau cadarnhaol niferus, sef ansawdd bywyd uchel, swyddi â chyflogau uchel (sydd, yn ôl pob golwg, yn swyddi gwag sy’n anodd eu llenwi mewn rhai achosion), cost byw sy'n llai na'r cyfartaledd, a'i threftadaeth a thirweddau naturiol cyfoethog.
2.2.3 Anghydraddoldeb
Anghydbwysedd rhwng y Rhywiau
Mae gwahaniaeth sylweddol rhwng y rhywiau yn dal i fodoli ar draws nifer o feysydd yn yr economi, sef cyflogaeth, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chyfleoedd i ffynnu yn fwy cyffredinol. Mewn geiriau eraill, nid yw menywod a dynion yn mwynhau'r un hawliau a chyfleoedd ar draws y gymdeithas.
‘Nid yn unig y mae cydraddoldeb rhywiol yn hawl ddynol sylfaenol. Mae hefyd yn allweddol ar gyfer economi gyfoes a llewyrchu sy'n darparu twf cynhwysol cynaliadwy. Mae cydraddoldeb rhywiol yn hanfodol ar gyfer sicrhau bod dynion a menywod yn gallu cyfrannu'n llawn yn y cartref, yn y gwaith ac mewn bywyd cyhoeddus, ar gyfer gwella cymdeithasau ac economïau yn gyffredinol.’ 9
Mae ymchwil ddiweddar sydd wedi'i chynnal ar ran Chwarae Teg wedi dangos y gallai cyfartaledd rhywiol llawn ychwanegu £13.6 biliwn at ragolygon gwerth ychwanegol gros Cymru ar gyfer 2028. Mae hyn yn cadarnhau'r sail ar gyfer pam y mae'n hanfodol fod Cymru yn dod yn arweinydd byd-eang o ran cyfartaledd rhywiol, camp y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi ac yn parhau i ymrwymo iddi.
Efallai mai'r dystiolaeth fwyaf amlwg i gefnogi'r syniad hwn yw'r anghymesuredd parhaus rhwng lefelau cyflogaeth ar gyfer gwrywod a benywod o fewn rhai sectorau allweddol. Mae'r graff isod yn dangos hyn:
8 https://www.iwa.wales/click/2018/12/its-time-for-students-to-come-together-and-stop-the-welsh-brain-drain/
9 https://read.oecd-ilibrary.org/social-issues-migration-health/the-pursuit-of-gender-equality_9789264281318-en#page5
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi

















































































   16   17   18   19   20