Page 10 - Gyrfaoedd Cyffrous ar Stepen Eich Drws
P. 10

  Prentisiaethau
Rydym yn cynnig prentisiaethau yng Nghymru i unrhyw un sydd dros 16 oed. Maent yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn swydd ynghyd â chyfle i astudio. Byddwch yn cael profiad gwaith ymarferol, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle ichi ennill arian a dysgu ar yr un pryd.
Mae llawer o wahanol gwmnïau a sefydliadau yn cynnig prentisiaethau ac weithiau mae angen gwneud rhywfaint o ymchwil i ddod o hyd i'r un iawn ar eich cyfer chi. Os oes cwmni penodol yr hoffech weithio iddo, efallai y byddai'n werth ichi gysylltu â nhw eich hun i weld a ydynt yn cynnig prentisiaethau.
Cyflogaeth
Efallai y byddwch yn teimlo bod dechrau gweithio ar ôl gadael yr ysgol yn iawn ar eich cyfer chi a'ch bod am ddechrau ennill cyflog ar unwaith. Byddwch fel arfer yn dechrau mewn rôl ar lefel mynediad, ond efallai y cewch gyfle i gamu ymlaen. Bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn chwilio am gymwysterau neu brofiad a bydd angen ichi fod yn 18 oed ar gyfer rhai rolau, yn enwedig ym maes gweithgynhyrchu, lletygarwch ac adeiladu.
Twf Swyddi Cymru+
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy'n gallu rhoi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad y mae eu hangen arnoch i gael swydd neu hyfforddiant pellach. Mae'n rhaglen hyblyg iawn sy'n cael ei chynllunio o'ch cwmpas chi. Gall Twf Swyddi Cymru+ fod yn opsiwn da os ydych chi am gael ychydig o gymorth neu ragor o gefnogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am y llwybrau at waith, cysylltwch â Gyrfa Cymru
gyrfacymru.llyw.cymru
  8 Bargen Ddinesig Bae Abertawe

























































































   8   9   10   11   12