Page 3 - business_courses_welsh
P. 3
PARC CENEDLAETHOL BANNAU BRYCHEINIOG CYNLLUN LLYSGENNAD
“Mae hwn wedi bod yn gwrs gwych iawn, mae pob sesiwn wedi bod yn ddiddorol, yn addysgiadol ac ysbrydoledig.” Perchennog Gwely a Brecwast.
Mae Cynllun Llysgennad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwrs rhad ac am ddim sy’n cael ei gynnig i bobl sy’n rhedeg ac yn gweithio mewn busnesau’n ymwneud â thwristiaeth.
Cynhelir yr holl gyrsiau yng Nghanolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol, Libanus ac maen nhw’n dechrau am 10am ac yn gorffen am 4pm. Bydd presenoldeb ym mhob un o’r tair elfen yn sicrhau dyfarniad Llysgennad Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r cwrs am ddim ac mae ychydig o leoedd gwag ar ôl ar y dyddiadau canlynol: Ymdeimlad o le Dydd Mawrth 15 Medi neu Ddydd Mercher 13 Hydref
Y Parc yn dy galon Dydd Mercher 23 Medi neu Ddydd Mawrth 20 Hydref
Gofal Cwsmer (Gwestywr y Byd) Dydd Mercher 30 Medi neu Ddydd Mawrth 10 Tachwedd
Am fwy o wybodaeth ac i archebu lle ar y Cwrs Llysgennad cysylltwch â Carol Williams: carol.williams@beacons-npa.gov.uk neu 01874 620478
Noddwyd y gweithgaredd hwn yn rhannol gan
Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru
TEITHIO YNO DEWCH Â EICH HUN CHINIO

