Page 12 - Llwybrau at eich Dyfodol
P. 12

Mae'n derm eang yn sicr, y cyfeirir ato yn aml gan lawer fel TG, ond nid
yw'n ymwneud â chodio TG a dylunio gwefannau yn unig , er eu bod yn
bwysig.
Yn gryno, mae elfennau digidol ym mhob man ac rydym yn rhyngweithio â
hyn yn ddyddiol, megis tiliau, roboteg a pheiriannau, cyfrifiadureg,
awtomeiddio, diwydiannau creadigol, deallusrwydd artiffisial hyd at
systemau diagnosteg feddygol a monitro hanfodol. Digidol yw'r
presennol a'r dyfodol, felly mae'n chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau
bob dydd.
Oherwydd ei natur amrywiol, bydd galw bob amser am unigolion â sgiliau
digidol, bydd dewis gyrfa mewn maes digidol yn sicrhau dewis gyrfa
hirdymor â thâl da a gan fod technolegau'n datblygu'n barhaus bydd yn
yrfa sydd bob amser yn ffres a chyffrous.
Which subjects should I try to excel in?
Bydd llwyddiant yn y pynciau isod yn eich rhoi
mewn sefyllfa dda ar gyfer gyrfa ym maes
gweithgareddau Digidol
Mae amrywiaeth mor eang o rolau ar gael
yn y sector hwn sy'n addas i bob lefel
addysg a maes arbenigedd, mae gan lawer
o lwybrau gyfleoedd prentisiaeth, gan
gynnwys prentisiaethau gradd.
Addysg Bellach.
NVQ Lefel 3:
TG, Dylunio Gwefannau, Ffotograffiaeth,
Telathrebu, Cynhyrchu Celfyddydau
Creadigol, Deallusrwydd Artiffisial, Realiti
Rhithwir
NVQ Lefel 4 a 5:
Dylunio Graffeg, Uwch-ddatblygwyr,
Datblygwyr Profiad Defnyddwyr, Rheolwyr
Prosiect. Systemau Awtomeiddio,
Datblygwr Gemau/ Apiau
Gradd Baglor:
Rheolwyr a Chyfarwyddwyr, Pensaernïaeth
TG, Roboteg, Peirianwyr Cyfrifiadurol,
Peirianwyr Rhwydwaith
Saesneg / Cymraeg
Mathemateg
Gwyddoniaeth
A wyddech chi?
Nid yw dewis gyrfa ddigidol bob amser yn golygu gweithio yn y
sector digidol. Mae pob diwydiant yn gofyn am sgiliau digidol.
Felly, gallech ddewis bod yn weithiwr proffesiynol digidol mewn
sector rydych chi'n ei garu, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig
prentisiaethau a llwybrau hyfforddi i'ch cael ar yr trywydd cywir.
Gweler ychydig o enghreifftiau isod:
Mae meysydd Gweithgynhyrchu, Peirianneg, Adeiladu,
Cynhyrchu Bwyd ac Ynni i gyd angen;
➢ Arbenigwyr Awtomeiddio
➢ Gweithwyr Proffesiynol Roboteg
➢ Dylunwyr 3D
➢ Crewyr a Gweithwyr Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig
Mae meysydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol angen;
➢ Arbenigwyr Systemau Diagnostig a Monitro Cleifion
➢ Dadansoddwyr
➢ Technegwyr Labordai Digidol
➢ Gwasanaethau Gwyddonol
➢ Gwyddorau Bywyd
Mae meysydd Lletygarwch, Hamdden, Twristiaeth a
Manwerthu angen;
➢ Dylunwyr Gemau
➢ Arbenigwyr Realiti Rhithwir
➢ Marchnata
➢ Gweithwyr Proffesiynol Logisteg
Mae meysydd Ariannol a Busnes angen;
➢ Cadwyn Flociau Fin Tec (Technoleg Ariannol)
➢ Dadansoddwyr Data Mawr
➢ Arbenigwyr Seiberddiogelwch
Mae meysydd Diwydiannau Creadigol angen;
➢ Dylunwyr, Animeiddwyr / Cynhyrchwyr Effeithiau Arbennig
➢ Cynhyrchwyr Cerddoriaeth a Fideo ac Arbenigwyr
Gwasanaethau Ffrydio
✓ Mae cyfle mawr i fusnesau sy'n cychwyn arni i ddarparu gwasanaethau technegol i
ddiwydiant sy'n ceisio moderneiddio, cyfryngau creadigol, dylunio ac ati gan wneud hwn
yn sector entrepreneuraidd i roi cynnig arno.
✓ Mae modd trosglwyddo'r sgiliau i unrhyw sector ac mae galw mawr amdanynt
✓ Er mwyn mynd i'r afael â'r risg gyda gweithlu sy'n heneiddio a'r bwlch oherwydd
ymddeoliadau bydd awtomeiddio systemau yn bwysig i Dde-orllewin Cymru
Mae'r posibiliadau'n ddiddiwedd yn y byd digidol cyffrous hwn sy'n newid ac yn datblygu.
Yn ein rhanbarth, mae buddsoddiad enfawr yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau digidol ar y gweill
felly mae swyddi a gyrfaoedd ar gael yn eang ar hyn o bryd a bydd y galw am sgiliau o'r fath yn parhau
i dyfu.
Digidol
Beth sydd dan sylw?
Pa bynciau ddylwn i geisio rhagori ynddynt?













   10   11   12   13   14