Page 3 - Grwpiau Clwstwr Diwydiant
P. 3
Croeso
Mae'r Bartneriaeth yn croesawu cyfranogiad gan bob busnes ar draws y sectorau niferus sy'n gweithredu yn ein rhanbarth.
Mae cyfraniad y cyflogwyr yn hanfodol i'r Bartneriaeth a bydd aelodaeth o'n grwpiau clwstwr diwydiant gan amrywiaeth o arweinwyr busnes yn sicrhau y gallwn lunio'r dirwedd sgiliau nawr ac yn y dyfodol i ddatblygu'r economi a chyfleoedd i bawb. Gobeithiwn y bydd eich diddordeb yn ein gwaith yn eich annog i ymuno â gweithgor sy'n cael ei lywio gan weithredu, ac sy'n cael effaith gadarnhaol ar benderfyniadau a wneir o fewn addysg, diwydiant a'r Llywodraeth ynghylch datblygu sgiliau a'r gofynion o ran y gweithlu.
Gobeithiwn y byddwch am ddarganfod mwy a dod yn rhan o grŵp brwdfrydig o unigolion a busnesau sydd am newid y dirwedd sgiliau i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ein Gweledigaeth
Gweithio mewn partneriaeth i hybu twf economaidd de-orllewin Cymru drwy gefnogi cyflogwyr i lunio llwybrau arloesol a chreadigol ar gyfer gweithlu cadarn. Yn ogystal, cefnogi trigolion lleol i ennill sgiliau a phrofiad i sicrhau ffyniant economaidd lleol.
BLAENORIAETH 1
Datblygu dealltwriaeth o ofynion sgiliau'r dyfodol
BLAENORIAETH 2
Hyrwyddo cyfleoedd a llwybrau gyrfa
BLAENORIAETH 3
Datblygu gweithlu medrus ar gyfer y rhanbarth
Arweiniad i Glystyrau Cyflogaeth