Page 17 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 17

 Nodweddion Galwedigaethol
Mae'r graff isod yn dangos ble mae cyflogaeth alwedigaethol ranbarthol yn fwy neu'n llai na chyfartaleddau cenedlaethol.
Yr hyn sydd fwyaf perthnasol am hyn yw bod lefelau cyflogaeth ranbarthol yn uwch na'r cyfartaleddau cenedlaethol ar gyfer y galwedigaethau hynny lle mae cyflogau canolrif fesul awr yn tueddu i fod yn is. Mae gan alwedigaethau elfennol, gwerthiant a gwasanaeth cwsmeriaid a gofal, hamdden a gwasanaethau eraill
gyflogau canolrif fesul awr sy'n is na £10.00 yr awr.
I gadarnhau hyn, mae cyfartaleddau cenedlaethol yn sefyll yn uwch ar gyfer nifer o'r galwedigaethau hynny â chyflogau uwch. Mae'r rhain yn cynnwys galwedigaethau proffesiynol, rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion, a phroffesiynol a thechnegol cyswllt lle mae cyflogau canolrif fesul awr yn amrywio rhwng £14.00 a £20.00.
Galwedigaethau Mwyaf
Gweithredwyr prosesau ac offer
Rheolwyr a chyfarwyddwyr
Crefftau medrus
Gwerthu a gwasanaethau cwsmeriaid
Rhanbarthol Cenedlaethol
Proffesiynol
Galwedigaethau elfennol
Gweinyddol
ac ysgrifenyddol
Proffesiynol a thechnegol cyswllt
Gofalu, hamdden a gwasanaethau eraill
17
     2.2 Methiant y Farchnad Lafur
Ceir methiant yn y farchnad lafur pan fo elfennau cyflenwad a galw marchnad lafur yn methu ag arwain at effeithlonrwydd economaidd llafur, neu pan na fônt yn sicrhau canlyniad effeithlon a/neu deg o safbwynt cymdeithas.
Mae'r rhesymau a ddyfynnir amlaf am fethiant y farchnad lafur yn cynnwys:
• Bodolaeth bylchau sgiliau • Ansymudedd llafur
• Anghydraddoldeb
Gellid dadlau bod nifer o'r ffactorau a grybwyllwyd uchod yn gyffredin yng Nghymru, a allai gyfuno i achosi i adferiad economaidd rhanbarthol waethygu neu aros yn ei unfan ac yn y pen draw atal yr economi rhag gwella.
7 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddata EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi









































































   15   16   17   18   19