Page 20 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 20

 20
 Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau
‘Mae bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn parhau'n fyd-eang, er gwaethaf enillion dramatig mewn addysg ar gyfer menywod. Mae nifer o ffactorau yn gyrru'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, gan gynnwys gwahanu'r rhywiau mewn meysydd astudio a swyddi, tebygolrwydd uwch y bydd menywod yn torri ar draws eu gyrfaoedd er mwyn rhoi gofal, ac – er ei bod yn anoddach i'w adnabod – gwahaniaethu a rhagfarnau yn erbyn menywod.’ 10
Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn gwella yng Nghymru er ei fod yn parhau i fod yn broblem. Ar lefel Cymru gyfan, mae cyflog canolrif fesul awr ar gyfer pob gweithiwr yn £11.42, ond mae'n £12.19 ar gyfer dynion a dim ond £10.54 ar gyfer menywod. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar lefel awdurdodau lleol yn 2018 fel a ganlyn:
  Ardal
Y Deyrnas Unedig
Cymru
Sir Benfro
Castell-nedd Port Talbot
Powys
Ceredigion
Abertawe
Sir Gaerfyrddin
Anabledd
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau
17.9% 13.5% 18.8% 18.1% 13.5% 11.2% 6.8% 2.3%
                 Yn ôl elusen anabledd flaenllaw, gan Gymru mae'r gyfran fwyaf o bobl anabl yn ei phoblogaeth, y nifer fwyaf o hawlwyr budd-daliadau cysylltiedig ag anabledd, a'r bwlch cyflogaeth mwyaf gyda phobl nad ydynt yn anabl unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. At hynny, canfu adroddiad a gwblhawyd yn ddiweddar gan Sefydliad Joseph Rowntree fod 39% o bobl anabl yng Nghymru yn byw mewn tlodi ar hyn o bryd, o gymharu â 22% o bobl nad ydynt yn anabl. Mae hyn yn awgrymu bod anghydraddoldeb amlwg yn y farchnad lafur. Trwy'r Cynllun Cyflogadwyedd, mae'n hanfodol fod mwy o gynwysoldeb a hygyrchedd i'r holl bobl anabl sy'n byw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ganddynt y sgiliau iawn, y drafnidiaeth iawn a'r wybodaeth iawn i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd a chreu economi well a thecach.11 Byddai gwaith o'r math yn ychwanegu at fentrau sydd eisoes yn bodoli, sef ‘Hyderus o ran Anabledd’12, ‘Mynediad at Waith’’13 a'r ‘Rhaglen Iechyd a Gwaith’14.
11 http://www.disabilitywales.org/national-disgrace-high-price-disability-poverty-wales/?lang=cy 12 https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign
13 https://www.gov.uk/mynediad-at-waith
14 https://www.gov.uk/rhaglen-waith-ac-iechyd
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi














































































   18   19   20   21   22