Page 48 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 48

 48
 Heriau o ran Sgiliau
Dywedodd 33% o'r ymatebwyr eu bod yn wynebu heriau o ran sgiliau. Mae'r heriau hyn o ran sgiliau wedi'u lledaenu ar draws amrywiaeth o feysydd galwedigaethol, sy'n cynnwys:
• Swyddi crefftau medrus (30%)
• Swyddi proffesiynol a thechnegol cysylltiedig (27%)
• Rheolwyr, cyfarwyddwyr ac uwch-swyddogion (23%)
• Swyddi proffesiynol (20%)
• Swyddi gweinyddol ac ysgrifenyddol (13%)
Yn ogystal â hynny, diffiniwyd yr heriau hyn o ran sgiliau fel ‘sgiliau neu wybodaeth arbenigol angenrheidiol i gyflawni'r rôl’ (41%), ‘sgiliau TG uwch neu arbenigol’ (34%) a ‘datrys problemau’ (28%). Mae dadansoddiad 50 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
  Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Gwerthiannau Rheolaeth
Marchnata
Diogelwch gwybodaeth Arbrofi
JavaScript (rhaglennu)
SQL (rhaglennu)
Cascading Style Sheets (CSS)
Datblygu meddalwedd ystwyth
Recriwtio
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
Siarad cyhoeddus Gwrando
Rheoli prosiectau Arweinyddiaeth Dysgu
Llythrennedd Moeseg Creadigrwydd Cyfathrebu darbwyllol
                   Nid yw 80% o'r ymatebwyr yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Wrth gwrs, gallai hyn olygu bod nifer helaeth o unigolion sy'n meddu ar y sgiliau a chymwysterau dymunol yn y farchnad lafur, sy'n golygu bod recriwtio'n broses weddol syml i fusnesau. Ar y llaw arall, gellid ei briodoli i'r ffaith fod mwyafrif y busnesau sy'n gweithredu yn y sector yn fusnesau maint sero neu'n ficrofusnesau, ac felly nid yw recriwtio'n arfer gyffredin nac yn hanfodol iddynt.
50 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector










































































   46   47   48   49   50