Page 52 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 52

 52
 • Cymhelliant ariannol er mwyn helpu ffermwyr hŷn i ymddeol, gan obeithio rhyddhau tir
• Adennill deilliadau sy'n eiddo i gynghorau
• Cymhelliant ariannol a fyddai'n annog ffermwyr hŷn i ymddeol, gan greu lle i weithwyr iau newydd yn y sector54
Trafododd y grŵp clwstwr yr angen i gefnogi'r gwaith o ddatblygu mentrau er mwyn hyrwyddo a gwella canfyddiad ysgolion cynradd ac uwchradd o'r sector. Yn ogystal â hynny, dylid hefyd ystyried unigolion a ystyrir fel rhai NEET (nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), neu sydd dan berygl o fod felly, gan nad oes dwywaith na fydd eu llwyddiant yn cyfeirio mwy o weithwyr y bydd angen hyfforddiant arnynt. Mae'r clwstwr yn gytûn y dylid mabwysiadu dull y gadwyn gyflenwi, o'r gât i'r plât, i hyrwyddo'r diwydiant, a dylid alinio'r cyllidebau a ragwelir ar gyfer hyfforddiant i'r nodau hyn.
Ystyriwyd canfyddiad o'r sector yn broblem sylweddol i 40% o'r busnesau canolig a mawr a ymatebodd i'r arolwg, a nodwyd mai recriwtio oedd eu her fwyaf amlwg. Dyma broblem arbennig o berthnasol yn y sector gweithgynhyrchu bwydydd gan y gallai newid yn argaeledd y garfan lafur o weithwyr mudol arwain at ddiffyg sylweddol o staff yn y rhanbarth, a gaiff ei gwaethygu gan yr heriau recriwtio a fynegwyd.
Parodrwydd am Waith
Dywedodd 56% o'r ymatebwyr fod parodrwydd am waith yn broblem o ran gweithwyr newydd. Yn yr un modd â sectorau eraill, dywedodd yr ymatebwyr fod y profiad gwaith a'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ar goll. Yn ogystal â hynny, dywedodd 50% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo bod gweithwyr newydd yn tueddu i fod ag agwedd neu gymhelliant gwael.
Roedd aelodau'r grŵp clwstwr yn disgwyl i'r ffigur hwn fod yn uwch, ond nodwyd ganddynt y gallai hyn ymwneud â'r ffaith fod llawer o ffermydd yng Nghymru'n tueddu i gael eu perchen gan deuluoedd a'u gweithredu gan deuluoedd. Felly, mae hyn yn awgrymu y gallai heriau o ran sgiliau a phroblemau o ran parodrwydd am waith fod yn llai tebygol o gael eu nodi.
Caiff hyn ei gadarnhau isod:
‘Y prif ffermwyr yw’r grŵp mwyaf o weithwyr. Partneriaid yw’r rhain ym musnes y fferm sy’n codi incwm o’r elw. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r cydbwysedd rhwng ffermwyr llawn amser a ffermwyr rhan amser wedi newid gyda chyfran fwy o bobl yn gweithio’n rhan amser.
Mae gweithwyr rheolaidd yn gweithio ar y fferm yn barhaol. Gallent fod yn aelod o deulu’r ffermwr, ac yn gweithio heb dâl neu am dâl. Mae nifer y gweithwyr rheolaidd yn gymharol fach ac nid oes gan y rhan fwyaf o ffermydd unrhyw weithwyr rheolaidd. Mae mwy o weithwyr wedi eu cyflogi yn rhan-amser yn ystod cyfnodau prysur.55
Trwy astudio’r data yn fwy manwl, gellir gweld bod parodrwydd i weithio'n tueddu i fod yn fwy o broblem i fusnesau canolig a mawr (a nodwyd fel busnesau gweithgynhyrchu bwydydd) a dywedodd 94% o'r ymatebwyr hyn fod parodrwydd i weithio'n amrywio ymysg gweithwyr newydd.
Heriau o ran Sgiliau
Ar y cyfan, dywedodd mwyafrif helaeth (76%) yr ymatebwyr nad ydynt yn wynebu heriau o ran sgiliau. Dywedodd y rheiny sydd yn wynebu'r heriau hynny eu bod yn amlwg mewn swyddi gweinyddol ac ysgrifenyddol (39%), gweithredwyr prosesau, peirianwaith a pheiriannau (30%), a swyddi crefftau medrus (27%).
54 http://betternews.co.uk/royal-welsh-show-fuw-urges-help-for-young-farmers
55 https://gov.wales/sites/default/files/statistics-and-research/2018-12/180130-welsh-agricultural-statistics-2016-ency.pdf
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector

















































































   50   51   52   53   54