Page 72 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 72

 72
 Prentisiaethau
Mae 24% o'r ymatebwyr yn cyflogi prentisiaid ac mae'r rhain yn bennaf mewn gweithgynhyrchu, adeiladu a pheirianneg ar Lefel 2.
Rheswm mwyaf cyffredin y rheiny nad ydynt yn cyflogi prentisiaid oedd nad yw fframweithiau prentisiaeth yn diwallu anghenion y busnes (50%), a dilynwyd hyn gan y ffaith eu bod yn ansicr ynglŷn â'r broses o ran cynnig prentisiaeth.
Gallai darparu prentisiaethau leddfu llawer o'r problemau y tynnwyd sylw atynt gan gyflogwyr o ran parodrwydd am waith a diffyg sgiliau ymarferol. Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn ardal sy'n wynebu'r heriau unigryw y mae Canolbarth Cymru'n eu hwynebu o ran recriwtio a hyfforddiant. Felly, mae gweithgareddau pellach yn hanfodol er mwyn deall y rhwystrau a wynebir yn well ac er mwyn gweithio gyda rhanddeiliaid perthnasol i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
Brexit
Fel y'i gwelwyd yn flaenorol â diwydiannau penodol eraill ac yn Ne-orllewin Cymru yn ei chyfanrwydd, costau cynyddol, anawsterau allforio/mewnforio a chyllid yw prif ystyriaethau busnesau o ran Brexit. Mae mwyafrif yr ymatebwyr i'r arolwg o Ganolbarth Cymru'n ymwneud â'r sector bwyd a ffermio, sef un o'r sectorau a nodwyd fel sector dan berygl mwyaf o ran Brexit.
Ymhlith y prif ystyriaethau mae:
• Ganwyd cyfran gymharol isel o'r boblogaeth yn yr Undeb Ewropeaidd (2.93%). Mae gan Geredigion a Phowys lefelau eithaf cyferbyniol ar gyfer preswylwyr a aned yn yr Undeb Ewropeaidd, ar 4% a 2.31% yn ôl eu trefn.
• Mae gan y ddau awdurdod lleol lefelau bregusrwydd sydd o dan y cyfartaledd, ond mae Ceredigion yn dangos lefelau uchel o gyflogaeth mewn swyddi elfennol ac mae gan y ddwy ardal incwm sy'n eithaf isel a allai beri risg yn dilyn Brexit.
• Mae gan y rhanbarth gyflogaeth ar lefel uchel iawn o fewn y sectorau ‘amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota’ (6%), sydd llawer yn fwy na chyfartaledd Cymru (1.1%). Dyma un o'r sectorau sy'n wynebu'r perygl mwyaf.
Y Gymraeg
Dywedodd 12% o'r ymatebwyr fod sgiliau yn y Gymraeg yn her. Mae'r heriau hyn o ran sgiliau'n arbennig o amlwg yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac mae cyflogwyr yn mynnu gweld hyfforddiant Cymraeg sylfaenol yn rhan o'r ddarpariaeth addysg bellach a dysgu yn y gwaith sydd eisoes yn bodoli.
Nid yw sectorau megis gweithgynhyrchu'n ystyried y Gymraeg yn hanfodol iddynt o ran gweithredu eu busnes yn ddyddiol.
Blaenoriaeth
Mae angen gwella'r cynnig ôl-16 yn y rhanbarth gan ddefnyddio dulliau arloesol. Mae hyn yn cynnwys cynnig cyrsiau newydd yn unol ag anghenion y diwydiant ond mae hefyd angen gwella a hyrwyddo llwybrau cynnydd.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector


















































































   70   71   72   73   74