Page 4 - LRFC_news_summer_2016
P. 4
04
Llandovery RFC Assistant Coach Simon Davies looks back on his first season with the Drovers...
LLANDOVERY RFC
ARGRAFFIADAU AC ATGOFION FY NHYMOR CYNTAF
Wedi iddi fod yn uchelgais gen i i hyfforddi yn yr uwchgynghrair, braint oedd cael y cynnig i ymuno â chlwb Llanymddyfri.
Er fy mod yn gyfarwydd gyda’r clwb, wedi chwarae yn erbyn Llanymddyfri gyda llwyddiant amrywiol, beth a’m trawodd i gyntaf oedd yr angerdd a’r balchder amlwg sydd yn treiddio trwy’r clwb, wedi eu gyplu gyda disgwyliadau proffesiynol uchel er mwyn cyrraedd y safonau gorau ar ac oddi ar y cae.
Wrth edrych yn ôl dros y tymor, mae’n deg i ddweud i ni ragori ar ein disgwyliadau cynnar. Y bwriad clir oedd i sicrhau ein bod yn gorffen yn y chwe thîm gorau yn y gynghrair ac i ddatblygu chwaraewyr newydd. Wedi dweud hyn, fe ddaeth yn amlwg cyn dechrau’r tymor bod criw o chwaraewyr ymrwymiedig, talentog a phenderfynol yn
y garfan. Gwelwyd hyn yn ein gemau c yn-dymor i ddechrau, ond fe wnaethom gyrraedd uchafbwynt cynnar ar Barc yr Arfau wrth ennill cystadleuaeth 7 bob ochr Fosters yr uwchgynhrair. Yn ansicr beth i ddisgwyl, fe waneth y chwaraewyr ddiddanu’r dorf gyda chyfres o berfformiadau arbennig ar ein ffordd i fuddugoliaeth gofiadwy a haeddiannol iawn.
Roedd wynebu sgôr o 0-18 yn ystod ugain munud cyntaf ein gêm agoriadol yn erbyn ‘Cross Keys’ yn agoriad llygad cynnar i gemau yn yr uwchgynghrair! Roedd y fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth 7 bob ochr Fosters yn golygu dim bellach! Fe welon ni yn syth lefel y cymeriad sydd yn perthyn i’r garfan wrth i
ni beidio ildio a brwydro ein ffordd yn ôl i gyflawni buddugoliaeth bwysig, nid yn unig i ni fel carfan, ond hefyd yn nhermau’r frwydr am y bencampwriaeth yn y pendraw.
Fe lwyddon ni i adeiladu ar y fuddugoliaeth yma gyda chyfres o fuddugoliaethau cynnar. Roedd curo Glyn Ebwy adref yn gêm gofiadwy arall, gyda Potts yn ein hatgoffa iddyn nhw fethu â sgorio pwynt! Roedd y 50 a sgorion ni hefyd yn bleser i’w weld. Mae llwyddo i fod y tîm gorau yn ein rhanbarth yn ystadegyn rydym ni yn ymalchïo ynddo wrth i ni ennill pob gêm cynghrair yn erbyn Caerfyrddin a Llanelli, gyda’r fuddugoliaeth gyntaf ym Mharc y Sgarlets eto yn garreg filltir eleni! Er y
canlyniadau gwych yma, mae’n deg i ddweud y byddwn o hyd yn holi’r cwestiwn, ‘Beth allai fod wedi bod?’, petaem wedi ennill ambell gêm allweddol yn ystod y tymor –Cross Keys bant o garfref a Phontypridd adre yn ddwy sydd o hyd yn dod i’r cof!
Roedd dau fis ola’r tymor yn gyfnod tyngedfennol i ni fel carfan ble cawsom ein hymestyn i’r eithaf mewn cyfres o gemau anodd iawn.
Dyma ble welon ni wir gymeriad y chwaraewyr yn cael ei arddangos â’u balchder i wisgo crys y Porthmyn! Fe lwyddon ni i sicrhau ein lle yn rowndiau terfynnol y gynghrair gyda buddugoliaethau allweddol yn erbyn Casnewydd, Bedwas a Chaerfyrddin.
Yn ogystal, roedd y mater o gemau cwpan gennym yn erbyn Glyn Ebwy yn gyntaf, wrth ennill gyda moment o ysbrydoliaeth gan Rhodri Davies ac amddiffyn ystyfnig, yn enwedig yn erbyn eu sgarmes symudol rymus. Unwaith eto, roedd ein hamddiffyn
yn erbyn Pontypridd yn y rownd gyn-derfynol yn anhygoel, gyda chyfnodau prin o ymosod clinigol a rhyng-gipiad Jack Maynard yn ein danfon i’r diwrnod bythgofiadwy yn y ffeinal yn y Stadiwm!
Nodwedd gyson sydd wedi fy nharo drwy’r tymor , wrth siarad gyda hyfforddwyr a chefnogwyr timau eraill, yw’r lefel uchel o barch sydd i’r clwb ymysg timau’r uwchgynghrair am eu gwaith oddi ar y cae yn ogystal a’r perfformiadau ar y cae. Er yn fach mewn nifer o gymharu â rhai timau, mae’r cefnogwyr yn ysbrydoliaeth i’r chwaraewyr fel y gwelwyd gyda’u bloeddio byddarol ar ddiwrnod rownd derfynol y cwpan yng Nghaerdydd. Hyfryd yw gweld y berthynas agos, bwysig yna sydd yn bodoli rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr. Mae’n gwneud y profiad o chwarae i, ac hyfforddi’r Porthmyn yn fraint arbennig! Er yn siomedig i golli i Lyn Ebwy yn rowndiau terfynol y gynghrair, rydym fel hyfforddwyr a chwaraewyr yn edrych yn ôl gyda balchder enfawr ar dymor hynod lwyddiannus, gan obeithio y bydd gwell i ddod eto?
Diolch am y croeso twymgalon ac ymlaen â’r Porthmyn!
Simon Davies
Llandovery Rugby Football Club.
DROVERS News