Page 5 - Tyfu'r Dyfodol
P. 5

Gweithgareddau Gardd Ymarferol
• Yn Hollol Ymarferol: Tocio Ffrwyth yn yr Haf
• Arbed Hadau
• Dewis Hadau
• Rhyfeddodau Compost
• Gwrtaith Gwyrdd Gwych
• Ymestyn Eich Tymor Tyfu
• Rheoli Pla a Chlefydau yn Naturiol
“ Mae'r prosiect wedi canolbwyntio ar sefydlu a darparu cyrsiau byr fforddiadwy a hawdd eu deall sy'n hygyrch i bawb. ”
“ Syniadau gwych iawn – diolch yn fawr! Gobeithio y bydd yn cael ei gynnal am flwyddyn arall. Dysgais fwy nag y gallwch ei ddysgu wrth chwilio ar y rhyngrwyd! ”
“Diddorol ac ysbrydoledig iawn. Byddaf yn rhoi cynnig ar dyfu cnydau newydd eleni. ”
Gwneud y Defnydd Gorau o Berlysiau
• Yn Hollol Ymarferol: Lluosogi Perlysiau
• Popeth ar Berlysiau
Adar a Gwenyn yn Eich Gardd
• Cyflwyniad i Gadw Gwenyn
• Denu Pryfed o Fudd
• Cadw Gwenyn Dwys
• Sesiwn Blasu Cadw Gwenyn
• Cadw Ieir i Ddechreuwyr
• Cadw Ieir Mewn Dinas Neu Dref
Hwyl i'r Teulu
• Cadw Ieir yn y Cartref Gyda Phlant
• Tyfwch Fi! Bwytwch Fi! Hwyl i'r Teulu Cyfan
O Gymru i Gameroon
Prosiect Gardd Twll Clo sy'n rhannu profiadau a gwybodaeth
Datblygwyd y dull cynaliadwy hwn o arddio yn wreiddiol gan sefydliad cymorth dyngarol yn Affrica. Mae gerddi twll clo yn dal gwlybaniaeth a maethynnau oherwydd bod y compost yng nghanol gwely crwn ac mae'r syniad wedi lledaenu ledled y byd gan fod modd eu haddasu ar gyfer llawer o hinsoddau gwahanol. Bu Natalie Danford ar gwrs Tyfu'r Dyfodol ar Arddio Twll Clo, gan ddysgu sut
i adeiladu a chynnal a chadw strwythur, gyda'r nod o rannu ei phrofiad ymarferol â phlant ysgol yn ardal y Kumbo yn Cameroon lle mae'n gwirfoddoli am dair wythnos bob blwyddyn.
Trefnodd Natalie weithdy ar "Adeiladu Gardd Twll Clo" yn Ysgol Gynradd Oscar Wind, Kumbo, Cameroon ar 7 Mawrth 2015. Yn bresennol roedd 10 pennaeth, cynrychiolydd o'r Weinyddiaeth Addysg, newyddiadurwr a chynrychiolwyr o Gyrff Anllywodraethol Self Reliance Promoters. Y nod oedd dangos strwythur gardd twll clo a thrafod y mathau o leoliadau, deunyddiau adeiladu a'r gwaith o gynnal a chadw'r gerddi gyda'r plant ysgol.
Gwnaeth y plant ysgol friciau o laid yn yr ysgol mewn mowldiau pren a'u sychu yn yr haul. Adeiladwyd amlinelliad yr ardd o haen o friciau, gosodwyd haen o rwbel yn y waliau a rhoddwyd basged o fambŵ yn y canol ar gyfer y compost. Ychwanegwyd y pridd ar ben y rwbel a chloddiwyd gwrtaith ger y brig, ac ychwanegwyd deunydd addas at y fasged. Ar ôl gadael yr ardd i setlo ac wedi i'r glaw gyrraedd, roedd yr ardd yn barod ar gyfer plannu.
Rhoddwyd taflen ar greu gardd twll clo i'r cyfranogwyr yn y gweithdy ac roedd rhagor o gopïau ar gael ar gyfer ysgolion eraill â diddordeb yn y dyfodol.
Mae'r astudiaeth achos hon yn amlygu'r cyfleoedd i rannu gwybodaeth ar draws cyfandiroedd gwahanol a buddiannau garddio i'r gymdeithas gyfan.
5


































































































   3   4   5   6   7