Page 7 - Tyfu'r Dyfodol
P. 7

Gwerthusiad o Effaith Gymdeithasol Tyfu'r Dyfodol
Cynhaliwyd Gwerthusiad o Effaith Gymdeithasol prosiect Tyfu'r Dyfodol er mwyn deall pa ganlyniadau yr oedd yn eu cyflawni, a'r gwerth yr oedd yn ei greu. Defnyddiwyd methodoleg Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad ar gyfer y gwerthusiad; methodoleg sy'n mesur ac yn rhoi cyfrif am ganlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, yn ogystal â chanlyniadau cwbl economaidd.
Canfu'r gwerthusiad bod Tyfu'r Dyfodol yn wir yn cyflawni'r canlyniadau yr oedd wedi gobeithio eu cyflawni:
Gwerthuso Tyfu'r Dyfodol
Cynhaliwyd gwerthusiad tri cham gan werthuswr annibynnol, Miller Research (UK) Ltd, y cafodd ei ddull gweithredu ei arwain gan ddull llyfr Magenta Trysorlys y DU, gan archwilio gweithgareddau, allbynnau, deilliannau ac effeithiau.
Dangosodd y gwerthusiad fod prosiect Tyfu'r Dyfodol wedi datblygu deunydd cyrsiau a darparu hyfforddiant yn llwyddiannus er mwyn ysgogi pobl yng Nghymru i dyfu eu llysiau a'u ffrwythau eu hunain. Mae'r prosiect wedi dangos bod Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnig y gallu i ddarparu prosiect gwerth £1.4m o arian Ewropeaidd yn llwyddiannus, ar amser ac o fewn y gyllideb, gan greu amrywiaeth o effeithiau economaidd a chymdeithasol. Mae wedi rhagori ar dargedau allbwn y prosiect ym mhob maes i ddatblygu a darparu hyfforddiant ymarferol trwy'r 16 o hybiau a'r 22 o gyrsiau hyfforddi ar-lein. Datblygwyd dros 40 o gyrsiau ymarferol a gafodd eu darparu gan 23 o hyfforddwyr profiadol yn yr hybiau.
Roedd y cyrsiau garddwriaethol yn apelio at dyfwyr newydd yn ogystal â'r rhai mwy profiadol gydag amrywiaeth o grwpiau oedran yn rhan o'r prosiect. Roedd un rhan o bump o gyfranogwyr y cyrsiau yn ddechreuwyr heb unrhyw brofiad o dyfu cnydau ac roedd gan 60% brofiad canolraddol,, ar ôl rhoi cynnig ar dyfu cnydau ers blwyddyn neu ddwy. Gwnaeth Tyfu'r Dyfodol ymgysylltu ag amrywiaeth eang o grwpiau oedran, a dywedwyd bod dwy ran o dair rhwng 45-65 oed. Yn ôl yr arolwg i gyfranogwyr y cyrsiau, roedd 80% o'r rheini a fu ar gyrsiau wedi rhoi'r technegau newydd yr oeddent wedi'u dysgu ar waith, ac wedi gweld cynnydd yn nifer ac amrywiaeth y bwyd yr oeddent wedi'i dyfu. Dywedodd un cyfranogwr fod mynychu'r cyrsiau yn “un o'r pethau gorau rwyf wedi ei wneud... Cynyddodd fy ngwybodaeth a chefais y cyfle i gyfarfod â ffrindiau newydd am oes”. Felly, dangosodd y prosiect fuddiannau cymdeithasol ehangach megis rhwydweithio parhaus yn ogystal â throsglwyddo gwybodaeth am arddwriaeth.
Un o brif gryfderau'r prosiect oedd y dull hwn o ddarparu ledled Cymru. Dywedodd un rhanddeiliaid fod Tyfu'r Dyfodol yn "brosiect ardderchog, yn cefnogi hybiau tyfu lleol fel canolfannau rhagoriaeth ac yn ysbrydoliaeth i'r cymunedau sy'n byw o'u cwmpas". Roedd lleoliad yn agos at gartref yn ffactor hanfodol
i unigolion wrth ddewis cyrsiau Tyfu'r Dyfodol, a dywedodd 82% o ymatebwyr yr arolwg ar-lein mai lleoliad yr hyfforddiant oedd y dylanwad pwysicaf ar eu penderfyniad i gymryd rhan. Mae'r map isod yn dangos dosbarthiad y cyfranogwyr yn ôl ardal awdurdod lleol (mae'r lliwiau tywyllach yn cynrychioli dwysedd mwy o gyfranogwyr cyrsiau) gyda'r cwmpas ledled Cymru'n cael ei ddangos, yn enwedig yn Sir Gaerfyrddin (cefnwlad gyfagos yr Ardd Fotaneg Genedlaethol) ac o Gaerdydd (gyda'r dwysedd poblogaeth fwyaf a thri hwb).
Dewisiadau'r Dyfodol
Bu Tyfu'r Dyfodol yn brosiect peilot llwyddiannus sydd wedi dangos galw am ddysgu garddwriaethol ac sydd wedi creu llwyfan ardderchog ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol.
Mae'r prosiect yn cefnogi nifer o nodau Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac mae'n mynd i'r afael â'r methiant presennol yn y farchnad o ran meithrin sgiliau tyfu anfasnachol i gefnogi'r agenda bwyta'n iach. Mae'r holl randdeiliaid – cyfranogwyr cyrsiau, hyfforddwyr, hybiau a grŵp llywio ehangach y prosiect, yn awyddus iawn i'r prosiect barhau i ddarparu cyrsiau a ddatblygwyd ledled Cymru, er mwyn ennyn diddordeb mwy o bobl mewn garddwriaeth ac ehangu'r gynulleidfa. Er bod dros hanner cyfranogwyr yr arolwg wedi dweud eu bod yn barod i dalu rhwng £10 a £40 am gwrs yn y dyfodol, nid oes amheuaeth y bydd angen rhyw fath o gymorth cyhoeddus er mwyn sicrhau bod y rôl y mae Tyfu'r Dyfodol yn ei chwarae yn parhau.
Individual Learning
Increased growing of food
Ripple effect
- community growing
Increased food security Reduced food miles Improved diets
• 1135 Individual learners
• 8 tonnes more food produced each year by learners
• 2 tonnes more food grown each year by friends, family and neighbours
• 10 tonnes more food produced in Wales each year
• 25,000 food tonnes/km saved
• 6 tonnes of CO2 emissions saved
Yn ddiddorol ddigon, ochr yn ochr â'r canlyniadau arfaethedig hyn roedd nifer o ganlyniadau anfwriadol a fu'n fwy gwerthfawr mewn gwirionedd. Y tri chanlyniad mwyaf gwerthfawr ar gyfer cyfranogwyr Tyfu'r Dyfodol oedd:
• Cynnydd mewn bodlonrwydd bywyd
• Cynnydd mewn ymarfer corff;
• Cynnydd yn y cyswllt â'r Ddaear; a
Gyda'i gilydd, cyfrannodd y rhain at 84% o gyfanswm y gwerth cymdeithasol a grëwyd. Er na gynlluniwyd hyn yn benodol fel rhan o'r prosiect, ymddengys y bu effaith donnog sylweddol gyda 95% o gyfranogwyr prosiect Tyfu'r Dyfodol yn rhannu'u gwybodaeth â'u teulu, eu ffrindiau a'u cymdogion. Mae'r Gwerthusiad o'r Effaith Gymdeithasol yn dangos mai cyfanswm y Gwerth Net Presennol a grëwyd gan brosiect Tyfu'r Dyfodol hyd yn hyn yw £3,117,189. Mae hyn golygu am bob £1 a fuddsoddwyd ym mhrosiect Tyfu'r Dyfodol, mae £3.42 o werth cymdeithasol ac amgylcheddol wedi'i greu gan y prosiect hyd yn hyn. Fodd bynnag mae Effaith Gymdeithasol Tyfu'r Dyfodol wedi cyflymu, gan greu 89% o gyfanswm ei werth cymdeithasol yn 2014 a thri mis cyntaf 2015.
Pe byddai'r ffigurau cyfranogiad a gyflawnwyd yn 2014 wedi'u cyflawni trwy'r prosiect, byddai'r Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad a gyflawnwyd yn ar y cam hwn yn 1:7:85.
7


































































































   5   6   7   8   9