Page 10 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 10

 10
 1.1 Diben
Mae'r Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol hwn ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi'i ddatblygu i lywio dull strategol Llywodraeth Cymru o ddarparu cyflogaeth a sgiliau.
Mae'r adroddiad hwn yn llywio templed cynllunio a chyllid rhanbarthol sy'n nodi newidiadau a argymhellir i'r cynigion dysgu addysg bellach amser llawn ac yn y gwaith ar draws y rhanbarth ar gyfer y tair blynedd nesaf (blynyddoedd academaidd 19/20, 20/21 a 21/22). Mae'r ddwy elfen yn cyfuno i gynorthwyo Llywodraeth Cymru yn y gwaith o ddarparu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n addas i'r diben ac sy'n diwallu anghenion dys- gwyr, cyflogwyr a darparwyr.
Mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol (y Bartneriaeth) yn parhau i ystyried y cynllun fel y prif gyfrwng ar gyfer creu newid o fewn y rhanbarth. Mae'r iteriad hwn yn wahanol i'w gymheiriaid o ganlyniad i'w natur ‘hirdymor’, gan ei fod wedi'i ysgrifennu ar gyfer y rhanbarth gyda'r tair blynedd nesaf mewn golwg. Bydd yr argymhellion a wnaed felly yn llywio cynllun gweithredu a fydd yn pennu gweithgarwch y Bartneriaeth dros y tair blynedd nesaf, gan alinio i'w gweledigaeth drosfwaol fel y'i nodir yn y cynllun hwn:
‘Creu amgylchedd dysgu ôl-16 sy'n diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr i wella llesiant economaidd De-orllewin a Chanolbarth Cymru.’
1.2 Proses a Methodoleg 1.2.1 Tystiolaeth Uniongyrchol
Mae'r Bartneriaeth yn defnyddio amrediad o wybodaeth uniongyrchol ac eilaidd am y farchnad lafur a'i hamrediad helaeth o sefydliadau partner i lywio’r gwaith o ddatblygu cynllun y gellir ei ystyried yn addas at y diben ac yn gynrychioliadol. Gwelir strwythur y Bartneriaeth yma.
Ceir hyd i wybodaeth uniongyrchol yn bennaf trwy ymgysylltiad helaeth â'r diwydiant, sy'n fodd i hysbysu elfen galw'r cynllun. Cesglir y rhan fwyaf o'r dystiolaeth hon drwy arolwg sgiliau, a ddosbarthir mewn modd electronig i gronfa ddata cyflogwyr helaeth y Bartneriaeth. Mae'r gweithgarwch hwn yn cael ei atgyfnerthu gan gyfweliadau ar y ffôn a chyfranogiad gan yr wyth grŵp clwstwr diwydiant, sy'n dal i fod yn amhrisiadwy.
Mae gan bob un o'r grwpiau clwstwr gadeirydd unigol sy'n cynrychioli ei sector ar y bwrdd. Gwelir eu rôl ehangach yma. Mae'r grwpiau clwstwr yn cynrychioli'r sectorau canlynol:
• Deunyddiau, gweithgynhyrchu ac ynni uwch
• Adeiladu
• Diwydiannau creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, a TGCh
• Bwyd a rheoli tir
• Iechyd a gofal cymdeithasol
• Hamdden, twristiaeth a manwerthu
• Canolbarth Cymru – pob diwydiant
• Y sector cyhoeddus
Ystyriwyd bod y sectorau yn flaenoriaeth gan fod pob un ohonynt yn chwarae rhan ganolog yn nhirwedd economaidd y rhanbarth. Mae eu presenoldeb o ran twf, capasiti cyflogaeth a chyfraniad ariannol i'r economi yn eu gosod ar flaen ymdrechion y Bartneriaeth i wella llesiant economaidd y ddau ranbarth, sef De-orllewin a Chanolbarth Cymru.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Pwrpas















































































   8   9   10   11   12