Page 12 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 12

 12
 Dyma nhw:
• Cymdeithas Ymwelwyr Bannau Brycheiniog
• Busnes Cymru
• Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr
• CITB, ECITB
• Ffederasiwn Busnesau Bach
• Undeb Amaethwyr Cymru
• Lantra
• Grŵp Gweithgynhyrchu Canolbarth Cymru
• Fforwm Twristiaeth Canolbarth Cymru
• Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru
• Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr
• Twristiaeth Sir Benfro
• Gofal Cymdeithasol Cymru
• Siambr Fasnach De Cymru
• Fforwm Twristiaeth De-orllewin Cymru
• Twristiaeth Abertawe
1.2.2 Tystiolaeth Eilaidd
Mae tystiolaeth eilaidd yn cael ei chaffael yn bennaf drwy adroddiadau gwybodaeth am y farchnad leol rhanbarthol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cael eu cynhyrchu i sicrhau bod gan y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol set gyson o wybodaeth am y farchnad lafur graidd ar gael er mwyn llywio'r cynlluniau. Ceir mynediad at adroddiad De-orllewin a Chanolbarth Cymru yma.
Mae'r data hwn yn cael ei gefnogi a'i gryfhau gan becyn meddalwedd modelu economaidd (EMSI), y mae'r Bartneriaeth yn ei ymholi ac wedyn yn ei ddadansoddi. Mae'r data a ddefnyddir o fewn y pecyn yn deillio o gasgliad o naw ffynhonnell lywodraeth ac mae'n cydnabod ei hun fel ffynhonnell wybodaeth am y farchnad lafur sy'n gyflawn, cywir a dibynadwy. Gweler dadansoddiadau o'r data hwn mewn mannau priodol drwy gydol y cynllun hwn. Yr elfen fwyaf hanfodol o'r broses o ddatblygu'r cynllun yw cwblhau’r templed cynllunio ac ariannu. Gwneir hyn gan ystyried y dystiolaeth uniongyrchol ac eilaidd a nodwyd uchod, a gasglwyd ar y cyd gyda'r wybodaeth cyflenwi’r cwricwlwm a ddarperir gan Lywodraeth Cymru am y cynigion addysg bellach amser llawn a dysgu yn y gwaith ar draws y rhanbarth. Elfen allweddol o'r cam hwn yw'r trafodaethau sy'n cymryd rhan rhwng darparwyr a chadeiryddion clystyrau diwydiant, sy'n arwain at ddatblygu argymhellion sy'n cael eu derbyn gan y ddwy ochr.
1.3 Cyfyngiadau a Ffactorau i'w Hystyried
Wrth ddarllen y ddogfen hon, dylid ystyried y ffactorau canlynol:
• Yn unol â'r fanyleb gan Lywodraeth Cymru, unig bwrpas y cynllun hwn yw gwneud argymhellion ynghylch darpariaeth alwedigaethol amser llawn ac elfennau o ddysgu yn y gwaith. Mae'r Bartneriaeth yn sylweddoli mai rhan fach o'r cynnig ôl-16 sydd ar gael yn y rhanbarth yw hyn gan nad yw'n ystyried darpariaeth ar lefel ysgolion, darpariaeth Safon Uwch, y cynnig addysg uwch presennol, na dysgu oedolion a'r gymuned. Mae'r Bartneriaeth yn gobeithio cynhyrchu cynllun rhanbarthol sy'n cynnwys yn llawn yr holl dirwedd ôl-16, gan fynd i'r afael yn llawn â'r cyfyngiadau hyn mewn fersiynau yn y dyfodol gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer dadansoddi ac adnabod llwybrau dysgu a gyrfa sydd wedi'u hamlygu gan gyflogwyr fel meysydd pryder.
• Dylai'r dystiolaeth gan gyflogwyr yn y proffiliau sector gael ei gweld fel barn y cyflogwyr yr ymgysylltodd y Bartneriaeth â hwy yn ystod y broses hon yn unig (naill ai trwy gyfarfodydd grwpiau clwstwr, ymatebion i arolygon neu gyfweliadau) ac nid y diwydiannau yn eu cyfanrwydd.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Pwrpas









































































   10   11   12   13   14