Page 14 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 14

 14
 2.1 Farchnad Lafur
2.1.1 Demograffeg
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer 2017 yn dangos bod tua 205,591 o bobl yn byw yng Nghanolbarth Cymru. Mae'r un amcangyfrifon yn dangos bod tua 698,733 o unigolion yn byw ym mhedair sir De-orllewin Cymru.
Mae gan ranbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru 150,104 o bobl o’r genhedlaeth filflwyddol (20-34 oed), sy'n agos i'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ardal o faint y rhanbarth. Fodd bynnag, mae perygl ymddeoliad yn uchel, gyda 367,511 o unigolion ar fin ymddeol cyn bo hir (55 oed ac yn hŷn). Y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ardal o'r maint hwn yw 310,348, sy'n sylweddol is na chyfartaledd y rhanbarth. Mae'n deg dweud felly fod gan y ddwy ardal economaidd boblogaeth sy'n heneiddio, gyda chyfran y bobl hynny sydd yn hŷn na 65 oed yn cyfrif am 26% o gyfanswm y boblogaeth yng Nghanolbarth Cymru a 22% yn Ne-orllewin Cymru. Mae'r ffigurau hyn yn fwy na chyfartaleddau Cymru a'r DU, sydd yn 21% a 18% yn y drefn honno.
Mae poblogaeth sy'n heneiddio yn dod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer llunwyr polisi, gydag effeithiau sy'n debygol o gael effaith ar nifer o feysydd polisi, gan gynnwys:
• Gwaith – Mae cynnydd yn oedran pensiwn y wladwriaeth yn arwain at gynnydd yn oedran cyfartalog y gweithlu gan y bydd rhaid i ragor o bobl aros yn y gwaith yn hirach.
‘Bydd cyfran y boblogaeth o oed gwaith rhwng 50 oed ac oed pensiwn y wladwriaeth yn cynyddu o 26% yn 2012 i 35% yn 2050 – cynnydd o tua 8 miliwn o bobl.’ 3
Byddai hyn yn awgrymu bod y gweithlu hŷn yn dod yn fwy pwysig ac y bydd twf a llwyddiant economaidd y DU a'i chenhedloedd datganoledig yn cael eu cysylltu fwy â llwyddiant eu gweithluoedd sy'n heneiddio.
• Dysgu – Rydym eisoes yn ymwybodol fod y byd gwaith yn newid, sy’n gofyn am unigolion mwy aml- fedrus. Mae hyn yn hanfodol er mwyn cefnogi gweithlu hŷn lle bydd pobl yn aros yn y gwaith yn hirach, gan awgrymu bod angen iddynt fod yn fwy addasadwy i anghenion newidiol yr economi a chymdeithas yn gyffredinol. Mae gan ddysgu gydol oes ran sylweddol i'w chwarae wrth sicrhau bod unigolion yn parhau i fod yn gyflogadwy ac yn fedrus trwy gydol eu bywydau.
• Iechyd a Gofal – Yn anochel, bydd poblogaeth sy'n heneiddio yn cynyddu'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn gosod mwy o bwysau ar allu'r sector i recriwtio a chadw unigolion â sgiliau priodol er mwyn darparu'r lefel uwch o ofal a fydd ei angen ledled y wlad.
Mae adroddiad Golden Age Index PricewaterhouseCoopers, a gyhoeddwyd yn ddiweddar (2017), yn awgrymu y dylid annog gweithwyr hŷn i aros yn y gweithlu yn hirach er mwyn gwrthbwyso'r costau uwch hyn. Mae ymchwil y cwmni yn awgrymu y byddai hyn yn cynyddu gwariant gan ddefnyddwyr ac yn codi cynnyrch domestig gros a refeniw trethi, yn ogystal â gwella iechyd a llesiant pobl hŷn trwy eu cadw'n weithgar yn feddyliol ac yn gorfforol.
2 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddata EMSI
3 https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/535187/
 gs-16-10-future-of-an-ageing-population.pdf
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi



















































































   12   13   14   15   16