Page 15 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 15

 • Diwygio pensiynau a chymhellion ariannol i ymddeol yn hŷn
• Mwy o gyfle i weithwyr hŷn weithio'n hyblyg
• Mwy o gyfle i fanteisio ar gynlluniau ymddeol hyblyg
• Cynlluniau mentora o chwith, gan ddefnyddio gweithwyr iau i fentora gweithwyr hŷn
– er enghraifft, mewn sgiliau digidol
• Ehangu prentisiaethau i weithwyr hŷn
• Polisïau cadarn yn erbyn gwahaniaethu
2.1.2 Perfformiad Economaidd
Mae'r ffigurau gwerth ychwanegol gros diweddaraf yn dangos gwahaniaeth parhaus rhwng cyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Mae'r bwlch yn parhau i dyfu a gwaethygu flwyddyn ar ôl blwyddyn, gyda chyfartaledd o 64.5 ar gyfer De-orllewin Cymru a chyfartaledd o 64.6 ar gyfer Canolbarth Cymru, o'u cymharu â’r gwerth wedi’i fynegeio o 100.00 ar gyfer y DU.
2.1.3 Lefelau Cymwysterau
Mae lefelau cymwysterau ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru yn parhau i lusgo y tu ôl i gyfartaleddau cenedlaethol, gyda mwy o unigolion yn y rhanbarth heb unrhyw gymwysterau a llai o bobl yn meddu ar gymwysterau ar Lefel 4 neu'n uwch.
I'r gwrthwyneb, mae'r cyfartaleddau ar gyfer Canolbarth Cymru yn cymharu'n fwy ffafriol â chyfartaleddau cenedlaethol, gan ddangos bod cyfran uwch o unigolion â chymwysterau ar Lefel 4 neu'n uwch a dangos lefelau is o'r rheini heb unrhyw gymwysterau.
15
 Ceir nifer fawr o ymyriadau y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi gweithlu sy'n heneiddio, megis:
 Lefel Cymhwyster Uchaf Oedolion o Oed Gwaith
90
80
70
60
50
40
30
20
10
0
                     Dim cymwysterau
Yn gymwys i lai na lefel 2
Yn gymwys i lai na lefel 2 neu’n uwch
Yn gymwys i lai na lefel 3 neu’n uwch
Yn gymwys i lai na lefel 4 neu’n uwch
Canolbarth Cymru
De-orllewin Cymru
Cymru
   Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi

































































   13   14   15   16   17