Page 21 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 21

 Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
Mae grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig15 yn wynebu rhwystrau penodol wrth gael mynediad at a symud ymlaen yn y gwaith, ac mae nifer o'r rhai sydd mewn cyflogaeth yn gweithio mewn sectorau â thâl isel neu mewn swyddi ansicr neu ran-amser. Mae dadansoddiad diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod gweithwyr o'r grŵp ethnig Bangladeshaidd, ar gyfartaledd, yn ennill 20.2% yn llai na gweithwyr o’r grŵp Gwyn – Prydeinig.16 Mae hyn yn ffactor sy'n cyfrannu tuag at gyfradd dlodi uchel ymysg grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac, os eid i'r afael â hyn, a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gael cyflogaeth ystyrlon, gellid ychwanegu £24 biliwn y flwyddyn i economi'r DU.17
Mae amrywiaeth hiliol yn isel yn y rhanbarth o'i chymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ardal o faint tebyg. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod unigolion yn cael eu cefnogi i oresgyn y rhwystrau sy'n bodoli, sy’n cynnwys:
• Sgiliau: Mae angen cefnogi grwpiau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig i gael mynediad at hyfforddiant ac i ddatblygu sgiliau. Mae darpariaeth ‘Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill’ (ESOL) yn hanfodol a dylid parhau i'w hyrwyddo fel llwybr ar gyfer gwella rhagolygon unigolion, gan eu galluogi i fyw yn annibynnol, i gael mynediad at waith a chyfleoedd addysgol, ac i gyflawni eu potensial.18
• Cymorth Cyflogaeth: Dylid rhoi cymorth cyflogaeth pwrpasol a phenodol i unigolion er mwyn cynyddu eu cyfranogiad i'r farchnad lafur a’u cynnydd oddi mewn iddi. Dylai'r cymorth cyflogaeth hwn fynd i'r afael â'r rhwystrau y mae unigolion duon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu mewn perthynas â'r farchnad lafur. Gallai'r cymorth hwn gynnwys mentora, cymorth o ran dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli neu leoliadau profiad gwaith, neu gymorth â chwilio am waith.
• Cynhyrchedd mewn Sectorau â Thâl Isel: Mae pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi'u crynhoi yn y sectorau sydd â thâl isel yn draddodiadol fel manwerthu a lletygarwch. Mae'r sectorau hyn yn cyfrif am un rhan o dair o'r bwlch mewn cynhyrchedd rhwng y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae gofyniad i gefnogi'r sectorau hyn er mwyn cau'r blwch cynhyrchedd hwnnw, a fyddai'n gwella canlyniadau ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.19
21
  15 BAME
16 https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/earningsandworkinghours/articles/
ethnicitypaygapsingreatbritain/2018
17 https://www.jrf.org.uk/blog/three-solutions-challenges-faced-ethnic-minorities-labour-market
18 Polisi Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yng Nghymru – Llywodraeth Cymru (2017)
19 https://www.jrf.org.uk/blog/three-solutions-challenges-faced-ethnic-minorities-labour-market
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi





















































































   19   20   21   22   23