Page 22 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 22

 22
 2.3 Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
Mae'r Bartneriaeth yn cefnogi saith nod llesiant y ddeddf trwy ei gweithgarwch parhaus, sy'n cynnwys y canlynol:
  Nod llesiant
1. Cymru ffyniannus
Gweithgarwch y Bartneriaeth
• Cynorthwyo busnesau i ganfod a dangos tystiolaeth o'r gofynion o ran sgiliau ar lefel leol ac i ymgysylltu â darparwyr i fynd i'r afael â bylchau sgiliau ac ysgogi ffyniant a thwf.
• Cefnogi cyflogaeth gynaliadwy trwy hyrwyddo prentisiaethau
a chyfleoedd dysgu galwedigaethol eraill, gan gynnwys prentisiaethau uwch, gradd-brentisiaethau a phrentisiaethau a rennir.
• Hybu a chefnogi dysgu gydol oes trwy gefnogi sgiliau gwaith a chyflogadwyedd, a chefnogi datblygiad sgiliau parhaus a chyflogaeth gynaliadwy.
• Cefnogi’r gwaith o drawsnewid y rhanbarth a'i economi â'r sgiliau digidol priodol, gan gynnwys trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, er mwyn sicrhau swyddi cynaliadwy â sgiliau a chyflogau uchel ar gyfer y dyfodol.
• Cefnogi'r sectorau hynny sydd wedi'u halinio'n agos i fioamrywiaeth a rheoli adnoddau naturiol i gaffael gweithlu medrus sy'n datblygu cydnerthedd o fewn y busnes ac, yn ei dro, yng Nghymru yn gyffredinol.
• Hybu cydraddoldeb rhanbarthol trwy gynorthwyo unigolion a busnesau i gyflawni eu potensial trwy ddarparu cyfleoedd dysgu a llwybrau cynnydd priodol.
• Ymgysylltu â phobl ifanc i hyrwyddo sgiliau a chyfleoedd gyrfa rhanbarthol trwy weithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael y cyfle i gyrraedd eu potensial waeth beth fo’u cefndiroedd neu amgylchiadau personol.
• Amlygu anghydraddoldebau sy'n bodoli yn yr economi, h.y. anghydbwysedd rhwng y rhywiau a chefnogi ymyriadau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn.
• Cefnogi unigolion i gaffael cyflogaeth ystyrlon a fydd yn y pen draw yn gwella ansawdd eu bywyd.
• Cefnogi unigolion i ennill sgiliau a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i'r economi, a fydd yn ei dro yn gwella llesiant.
• Amlygu'r heriau a'r rhwystrau y mae rhai cymunedau yn eu hwynebu wrth gael mynediad i wasanaethau, hyfforddiant a chyflogaeth.
• Amlygu meysydd y cwricwlwm sy'n cefnogi’r gwaith o greu cymunedau cydlynus, h.y. talu mwy o sylw i ofal dementia o fewn y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
    2. Cymru gydnerth
3. Cymru sy'n fwy cyfartal
     4. Cymru iachach
5. Cymru o gymunedau cydlynus
  Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi











































































   20   21   22   23   24