Page 24 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 24

 24
 gweithwyr medrus sydd â chynigion gwaith’. Yn ogystal, mae'r cynnig hefyd yn datgan:
• Gwaredu â'r cap presennol ar fisas Haen 2 a dileu'r gofyniad ar gyflogwyr gweithwyr medrus i gynnal prawf marchnad lafur breswyl;
• Ychwanegu gweithwyr medrus canolig i Haen 2;
• Cynnal ymgynghoriad ynghylch y trothwy enillion isaf gwerth £30,000 ar gyfer fisas Haen 2;
• Darparu llwybr amhenodol ar gyfer gweithwyr â sgiliau is ynghyd â chynnig i ychwanegu mesur pontio
i alluogi gweithwyr â sgiliau is i weithio yn y DU am 12 mis, gyda chyfnod o 12 mis arall fel cyfnod pwyllo; a
• Pheidio â galluogi unrhyw amrywiadau rhanbarthol o fewn y polisi mewnfudo ar gyfer rhannau gwahanol
o'r DU.21
Gallai'r cynigion gael effeithiau sylweddol o bosibl ar y sectorau hynny sy'n ddibynnol iawn ar weithlu mudol, yn enwedig y rheini sy'n ddibynnol ar weithlu mudol â sgiliau is. Mae felly'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn deall effeithiau posibl y newid hwn ar feysydd yng Nghymru a gofyn am amrywiadau rhanbarthol i'r newidiadau arfaethedig yn y system newydd o ganlyniad.
Diwydiant
Mae Brexit yn peri pryder mawr o bosib ar gyfer busnesau sy'n gweithredu ledled Cymru. Mae ymchwil sylfaenol a gasglwyd gan y Bartneriaeth yn dangos mai ychydig iawn o fusnesau sy’n credu'n llwyr y bydd Brexit yn arwain at newid cadarnhaol ar eu cyfer. Nododd mwyafrif o'r ymatebwyr fod costau uwch yn brif ystyriaeth, gydag anawsterau allforio/mewnforio ac ariannu yn dilyn.
Mae Brexit, wrth gwrs, yn fwy o bryder ar gyfer rhai sectorau nac eraill, ac mae disgwyl y bydd y sectorau bwyd ac ar y tir, gweithgynhyrchu, hamdden a thwristiaeth, ac iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu heffeithio'n sylweddol.
Mae'r rhanbarth eisoes wedi dioddef effeithiau'r amodau gwleidyddol ac economaidd ansicr hyn, gyda dau gwmni gweithgynhyrchu mawr naill ai wedi cynllunio i ddileu nifer sylweddol o swyddi neu wrthi’n gwneud hyn. Mae'n hanfodol fod y Bartneriaeth a'i phartneriaid ehangach yn gallu ymateb yn effeithiol i'r newidiadau sylweddol hyn o fewn y farchnad lafur drwy gael yr hyblygrwydd i addasu'r ddarpariaeth sgiliau er mwyn diwallu anghenion y gweithluoedd a effeithir yn ogystal â'r cadwynau cyflenwi.
Pan holwyd, ni ddangosodd y sectorau ariannol a phroffesiynol, TGCh ac addysg eu bod yn gofidio llawer am hyn. Gweler gwybodaeth fanwl ar sail sector yn y proffiliau sector unigol.
Darparwyr
Bydd effeithiau Brexit ar ddarparwyr yn cael eu profi fwyaf o bosib gan sefydliadau addysg uwch. Yn gyntaf oll, gallai'r golled bosibl mewn arian fod yn niweidiol iawn i brifysgolion, gan effeithio ar eu gallu i gynnal ymchwil o'r radd flaenaf, i wneud buddsoddiadau sylweddol sydd eu hangen yn fawr, neu i weithredu elfennau o'u cenhadaeth ddinesig ehangach. Yn ogystal, gallai Brexit rwystro ar eu gallu i recriwtio staff a myfyrwyr, sy'n sail i’w bodolaeth, a gallai niweidio perthnasau academaidd rhyngwladol sydd wedi'u hadeiladu dros nifer o flynyddoedd.22
21 https://41ydvd1cuyvlonsm03mpf21pub-wpengine.netdna-ssl.com/wp-content/uploads/2019/01/ Discussion-paper-FINAL-Jan-2019.pdf
22 https://41ydvd1cuyvlonsm03mpf21pub-wpengine.netdna-ssl.com/wp-content/uploads/2018/09/ After-Brexit-HE-report-final-with-covers.pdf
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi















































































   22   23   24   25   26