Page 27 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 27

 27
 Nodwyd parodrwydd am waith fel pryder ar gyfer 59% o'r busnesau a arolygwyd. Nododd ymatebwyr nad oedd gan y mwyafrif (59%) y profiad gwaith angenrheidiol, ac yna'r sgiliau angenrheidiol (54%), a'r ffaith fod newydd ddyfodiaid yn tueddu i ymarfer agwedd wael a bod diffyg cymhelliant ganddynt (37%).
Mae tystiolaeth glir ar gael i awgrymu bod profiad gwaith effeithiol yn gallu darparu unigolion â'r sgiliau meddal y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Roedd 63% o gyflogwyr Cymru yn dweud bod meddu ar brofiad gwaith perthnasol yn ofyniad hanfodol neu arwyddocaol ar gyfer pobl sy'n ymgeisio i ymuno â'u cwmni.26 Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau fel gweithio tuag at derfyn amser, bod yn benderfynol a bod yn barod i ddyfalbarhau, cyfathrebu, rheoli amser yn effeithiol, a'r gallu i dderbyn beirniadaeth.
2.7 Ysgolion
2.7.1 Y Cwricwlwm Newydd
Mae'r system addysg orfodol yn newid yng Nghymru. Bydd y newidiadau yn dod i rym yn llawn o fis Medi 2022 ac maent yn digwydd am nad yw lefelau cyrhaeddiad yng Nghymru a lefelau cyflawni yn bodloni disgwyliadau neu anghenion cymdeithasol.
Cyflwynwyd y system cwricwlwm bresennol yn 1988 ac mae'r byd wedi newid yn sylweddol ers hynny ac mae'n parhau i newid ar raddfa gyflym. Nod y cwricwlwm newydd yw darparu pobl ifanc â'r sgiliau digidol, y gallu i addasu, y creadigrwydd a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy'n newid yn barhaus. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd:
‘O ystyried graddfa a chyflymder y newid, mae'n debygol y bydd llawer o blant yn yr ysgol gynradd heddiw yn gweithio mewn swyddi sydd naill ai ddim yn bodoli heddiw, neu o leiaf mae’r tasgau cyfansoddol yn wa- hanol iawn i rai heddiw’ 27
Mae'r cwricwlwm yn seiliedig ar y chwe maes dysgu a phrofiad canlynol:
• Y celfyddydau mynegiannol
• Y dyniaethau
• Iechyd a lles
• Gwyddoniaeth a thechnoleg
• Mathemateg a rhifedd
• Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu
Mae'r meysydd dysgu hyn wedi'u halinio i'r meysydd blaenoriaeth hynny sydd wedi'u nodi gan y Bartneriaeth mewn ymateb i adborth gan y diwydiant, ac maent felly yn cael eu croesawu. Mae'r Bartneriaeth yn gwbl gefnogol o ddiben y cwricwlwm newydd o ran datblygu:
• dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
• cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a'u gwaith
• dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd
• unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas’ 28
Bydd cyflawni newid mor uchelgeisiol i gwricwlwm yn heriol a bydd yn gyfle i baratoi pobl ifanc ar gyfer y byd gwaith trwy ddatblygu sgiliau mwy meddal. Bydd cyfranogiad busnesau gydag ysgolion yn hanfodol a bydd cyfleoedd yn cael eu hannog, gan adeiladu ar waith sydd eisoes yn cael ei wneud drwy raglenni llewyrchus Dosbarth Busnes a'r Gyfnewidfa Addysg Busnes.
26 Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau, 2015
27 https://llyw.cymru/mae-addysg-yn-newid?_ga=2.57934442.1741704811.1569831603-1991508259.1544607296
28 https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-drafft-i-gymru-2022/?_ga=2.197088492.1992631532.1562578308-1810832820.1548670953
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi










































































   25   26   27   28   29