Page 29 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 29

 29
 Recriwtio
Gwnaeth darparwyr adrodd eu bod wedi cael trafferth wrth recriwtio darlithwyr a staff dysgu cymwysedig yn y meysydd canlynol:
• Cerbydau modur
• Amaethyddiaeth
• Athrawon galwedigaethol Cymraeg yn gyffredinol
• Staff addysgu ac aseswyr peirianneg, staff addysgu o fewn meysydd adeiladu a chyllid – gan nad
oedd modd cystadlu â graddfeydd cyflog y diwydiant
• Staff digidol a chyfrifiadura
• Mathemateg ac iechyd a gofal cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg
• Athrawon mathemateg TGAU / mathemateg bellach ar Safon Uwch
• Problem sylweddol o ran recriwtio ar gyfer yr holl staff (addysgu a rolau nad ydynt yn academaidd)
mewn ardaloedd gwledig
Cyfarpar
Heb y cyfarpar ac adnoddau cywir, nid yw darparwyr yn gallu darparu'r lefel cymhwysedd a ddymunir i ddysgwyr. Er bod colegau wedi nodi bod arian Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth yn y maes hwn yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae rhai materion yn dal yn bodoli.
Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y sector digidol a TGCh, sydd yn faes lle mae angen disodli cyfarpar ac adnoddau yn gyflym iawn mewn ymateb i ddatblygiadau parhaus mewn technoleg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ystyried pwysigrwydd cynyddol y sector ar gyfer y rhanbarth. Dylai darparwyr gael eu cefnogi ymhellach er mwyn sicrhau bod ganddynt fynediad at yr adnoddau a chyfarpar dysgu gorau a mwyaf perthnasol er mwyn paratoi gweithlu'r dyfodol yn ddigonol. Mae hyn hefyd yn wir am y sector peirianneg.
Yn ogystal, awgrymodd un darparwr ei fod yn cael trafferth wrth gael adnoddau i gynorthwyo â’r lefelau uwch o ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. O ystyried safbwynt polisi Llywodraeth Cymru a thargedau mewn perthynas â'r Gymraeg, dylai darparwyr gael eu cynorthwyo'n ddigonol er mwyn cynorthwyo gyda'r genhadaeth hon.
Y Cynnig
Hoffai darparwyr weld cynnydd yn y meysydd darparu canlynol: cyfrifiadura, TG, lletygarwch a pheirianneg, yr economi ymwelwyr, technoleg bwyd, adeiladu, ac ynni adnewyddadwy. Mae'r rhain yn gyson â meysydd twf y mae'r Bartneriaeth wedi'u nodi ac mae'r Bartneriaeth wedi ymrwymo i gefnogi darparwyr i gynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn y meysydd hyn, fel sy'n amlwg o'r argymhellion a wneir yn adran 6.
2.9 Addysg Uwch
Mae'r rhanbarth yn elwa o bresenoldeb pedwar darparwr addysg uwch o ansawdd sy'n cyfrannu at elfen gystadleuol y rhanbarth drwy greu a diogelu swyddi, cefnogi’r gwaith o greu cwmnïau deilliedig a chychwynnol, denu buddsoddiad, darparu cymwysterau a sgiliau i ddysgwyr, ac ymgymryd ag ymchwil o'r radd flaenaf.
Mae sector addysg uwch rhanbarthol sy'n gystadleuol ar lefel fyd-eang yn hanfodol i lwyddiant y rhanbarth ac i gefnogi datblygiad economi â sgiliau uchel. Mae hyn yn cynnwys denu myfyrwyr ac ymchwilwyr o'r tu allan i'r rhanbarth yn ogystal â chefnogi'r economi leol a busnesau.
Er mwyn darparu rhywfaint o gyd-destun, mae'r ystadegau mwyaf diweddar yn dangos bod prifysgolion Cymru wedi cynhyrchu allbwn gwerth £5 biliwn, gan gyflogi 16,700 o unigolion yn uniongyrchol a chyfrannu at gyflogaeth 32,500 o bobl eraill.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Cyd-destun Polisi











































































   27   28   29   30   31