Page 42 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 42

 42
 Yn ystod grwpiau ffocws a gynhaliwyd trwy ran helaeth o'r grŵp clwstwr adeiladu, bu cryn drafodaeth ar gaffael a'r heriau y mae micro fusnesau, busnesau bach a busnesau canolig yn eu hwynebu yn y broses hon. Mae gallu BBaChau i sicrhau gwaith ac elwa ar y manteision dilynol iddynt hwy, eu gweithwyr ac i'r economi leol ehangach yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithdrefnau caffael effeithiol ac effeithlon ac maent yn effeithio'n sylweddol arno.
Creda Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr:
‘...ar sail graddfa'r prosiectau a gynhelir gan sefydliadau mwy o faint, caiff BBaChau eu hanwybyddu’n aml er gwaethaf yr arbenigedd a'r effeithlonrwydd y maent yn eu cyfrannu i'r gadwyn gyflenwi.
Mae BBaChau adeiladu, yn enwedig, yn hyfforddi ac yn cadw dau draean o'r holl weithwyr adeiladu. Yn ogystal â hynny, am bob £1 a fuddsoddir gyda BBaCh, bydd 90c yn aros yn lleol er mwyn hyfforddi prentisiaid lleol, cyflogi gweithwyr lleol a thyfu'r economi leol.’42
Byddai gwaith gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio ac ailstrwythuro'r broses gaffael gyfredol yn creu amgylchedd tecach i BBaChau ac yn eu galluogi'n well er mwyn iddynt ffynnu, gan sicrhau bod buddsoddi yng Nghymru'n arwain at ganlyniadau economaidd cynaliadwy.
Y Gweithlu
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae'r rhan fwyaf o'r gweithlu yn ddynion ac mae cyfran fawr (40.6%) dros 45 oed.
Cadarnhaodd 80% o'r ymatebwyr i'r arolwg o sgiliau'r ystadegyn hwn, sy'n dangos y caiff llawer mwy o ddynion eu cyflogi yn eu gweithlu na menywod. Noda arolwg a gynhaliwyd gan CITB y dywedodd dim ond 34% o fenywod y byddent yn ystyried gyrfa mewn adeiladu, a chytunodd dim ond 33% o'r ymatebwyr i'w arolwg fod y sector yn cynnig yr un nifer o swyddi i fenywod ag i ddynion.43
Gellid cysylltu hyn yn uniongyrchol â'r canfyddiad o'r sector, lle nododd yr ymatebwyr fod camsyniadau gan bobl ifanc, athrawon, rhieni a dylanwadwyr ynglŷn â'r diwydiant. Ymhlith y camsyniadau cyffredin hyn mae:
• Sgiliau isel
• Cyflog isel
• Rhagolygon isel
• Cydberthnasau busnes gwrthwynebus
• Arferion gweithio gwael
• Diffyg sensitifrwydd amgylcheddol
• Enw gwael o ran tangyflawni
Wrth gwrs, mae diffyg gweithwyr newydd o ansawdd uchel i'r sector yn cynyddu'r her y mae gweithlu a phoblogaeth sy'n heneiddio yn fwy cyffredinol yn ei pheri i'r sector. Nododd astudiaeth a gynhaliwyd gan CIOB ddwy brif her i'r diwydiant:
1. Bydd angen ystyried dyluniad ac isadeiledd adeiladau wrth i boblogaeth sy'n heneiddio greu galw ychwanegol am stoc tai sydd nid yn unig yn addas i'r genhedlaeth hŷn ond sydd hefyd yn hygyrch.
42 https://businessnewswales.com/reforming-procurement-must-enable-welsh-smes/
43 https://www.citb.co.uk/documents/research/ciag%20snapshot%20report%20final2.pdf
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector













































































   40   41   42   43   44