Page 40 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 40

 40
 Prentisiaethau a Darpariaeth
Nid yw mwyafrif (62%) y busnesau yn y sector hwn yn cyflogi prentisiaid. Pan holwyd pam, dywedodd y mwyafrif mai methiant fframweithiau i ddiwallu anghenion y busnes oedd y broblem waethaf (51%). Dilynwyd hyn gan ansicrwydd ynglŷn â'r broses o gynnig prentisiaeth (27%).
Teimlodd cynrychiolwyr grwpiau clwstwr fod prentisiaethau bellach yn cael eu hysgogi gan y cyflenwad, ac weithiau mae darparwyr yn darparu cynnwys yn unol â'r sylfaen sgiliau sydd ar gael iddynt ac nid o'r rheidrwydd cynnwys sy'n diwallu anghenion y cyflogwr. Teimlir bod ansawdd yr aseswyr a'r darlithwyr yn dangos y cyflogau is a gynigir o'u cymharu â'r rheiny a gynigir yn y sector preifat. Mae hyn yn effeithio'n uniongyrchol ar allu'r proffesiwn i ddenu unigolion tra medrus sydd â'r profiad angenrheidiol yn y diwydiant i ddarparu gwerth ychwanegol i'r gwaith o gyflawni'r cymhwyster.
Y Rhaglen Peirianneg Uwch yw'r cymhwyster a ffefrir gan y diwydiant dros ddarpariaethau addysg bellach amser llawn eraill sy'n ymwneud â pheirianneg. Ei phrif atyniad yw'r ffaith y caiff dysgwyr eu haddysgu drwy'r dydd am bum diwrnod yr wythnos, o'u cymharu â'r oriau amser llawn safonol ar y cwrs, sy'n cyfateb i 16 o oriau'r wythnos ar gyfartaledd. Teimla'r diwydiant y dylai pob dysgwr gael cyfle i ymgymryd â'r Rhaglen Peirianneg Uwch a chael profiad o lefel yr addysgu sydd ynghlwm wrthi o ganlyniad.
Brexit
Mae llawer o fusnesau (50%) sy'n gweithredu yn y sector hwn yn ystyried costau cynyddol ac mae llawer yn sôn am gael trafferth allforio/mewnforio hefyd (50%). Dywedodd 26% o'r ymatebwyr na fyddai Brexit yn achosi unrhyw heriau iddynt wrth symud ymlaen. Dim ond 11% a nododd heriau o ran colli staff a 9% nododd heriau o ran sgiliau.
Y Gymraeg
Mae'n debyg nad yw'r Gymraeg yn bwysig i weithrediadau busnes yn y sector gan nad yw ond un ymatebwr wedi ei nodi fel her o ran sgiliau. Er y cytunir bod yr iaith yn gadarnhaol i ddiwylliant, hunaniaeth a chreu ymdeimlad o le, dangosodd trafodaethau pellach â chyflogwyr nad yw'n hanfodol i weithgareddau beunyddiol y diwydiant.
Cytunwyd nad oes galw am ddarpariaeth ddwyieithog neu ddarpariaeth Gymraeg a dylid canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau Saesneg ysgrifenedig a llafar y dysgwyr gan fod cyflogwyr yn credu bod y sgiliau hyn yn brin arnynt.
Blaenoriaeth
Sicrhau y caiff cyllid ei ddyrannu ar sail anghenion y cyflogwyr, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
• hyfforddiant penodol i'r diwydiant
• cynyddu nifer y llwybrau dysgu STEM ar bob lefel
• gwella sgiliau sylfaenol
• ehangu'r defnydd o brentisiaethau
• hyrwyddo gyrfaoedd mewn peirianneg a diwydiannau sy’n gysylltiedig â STEM
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector

















































































   38   39   40   41   42