Page 38 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 38

 38
 Heriau
Y prif heriau yn ôl y busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau deunyddiau, gweithgynhyrchu ac ynni uwch yw creu elw (53%), sicrhau gwaith (41%) a recriwtio (35%). Mae'r rhain yn gyson â'r canfyddiadau a gasglwyd trwy ymgynghoriad yn 2018. Yn yr un modd â'r sector adeiladu, gellir deall mai sicrhau gwaith a chreu elw fyddai'r prif heriau i fwyafrif y busnesau, gan fod hyn heb os yn rhagflaenu ac yn galluogi'r gwaith o ddatblygu staff (32%) a hyfforddiant (19%), a nodwyd hefyd fel heriau.
Y Gweithlu
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos y caiff y sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch ei nodweddu gan boblogaeth sy'n heneiddio, gyda'r rhan fwyaf o'i weithlu o ddynion (79.1%) rhwng 45 a 54 oed. Gwelir tuedd debyg yn y sector ynni.
Cadarnhaodd 70% o'r ymatebwyr y dystiolaeth eilaidd hon, gan ddweud bod nifer sylweddol fwy o ddynion yn cael eu cyflogi yn eu gweithlu na menywod.
Gellir priodoli'r tueddiadau hyn yn bennaf i safbwynt menywod o bob oedran ynglŷn â diwydiannau sy'n ymwneud â phynciau STEM, ond yn enwedig unigolion iau. Canfu arolwg a wnaed gan ‘Women in Manufacturing’ (WiM) na fyddai bron 75% o fenywod yn ystyried gyrfaoedd gweithgynhyrchu yn opsiwn dichonol, sy'n destun pryder, yn enwedig gan fod ymchwil bellach yn awgrymu bod cyflogi menywod yn y rolau hyn nid yn unig yn pontio'r bwlch rhwng y rhywiau ond hefyd yn dwyn budd i broffidioldeb y busnes. Am bob cynnydd o 10% yn amrywiaeth y rhywiau, mae elw gros yn cynyddu 3.5%.38
Parodrwydd am Waith
Ystyrir parodrwydd gweithwyr newydd am waith yn bryder i 53% o'r busnesau a holwyd. Dywedodd y mwyafrif ohonynt fod y lefel ddymunol o brofiad gwaith (69%) a sgiliau (49%) ar goll ymysg gweithwyr newydd a dywedodd 27% fod gan weithwyr agwedd ac ysgogiad gwael.
Mae'n amlwg fod dymuniad gan gyflogwyr i weld y sawl sy'n gadael addysg ac yn mynd i mewn i'w diwydiant i fod yn fwy ymwybodol o'r byd gwaith. Felly mae angen sicrhau bod dysgwyr ifanc yn cael cynnig profiad gwaith priodol sy'n rhoi'r lefel ddymunol o sgiliau ymarferol iddynt ynghyd â'r agwedd briodol i wneud cyfraniad cadarnhaol at y diwydiant. Yn ogystal â hynny ac yn bwysicaf oll, mae'n hanfodol yn sgil y perygl uwch yn y diwydiant, ac felly mae cymhwysedd ac ansawdd y gweithwyr yn hollbwysig i warchod eu diogelwch hwy a diogelwch eu cydweithwyr.
Heriau o ran Sgiliau
Mae 48% o'r ymatebwyr yn wynebu heriau o ran sgiliau ar hyn o bryd. Mae mwyafrif yr heriau hyn o ran sgiliau'n bresennol ar lefel crefftau medrus (54%), ar lefel gweithredu prosesau, peirianwaith a pheiriannau (36%), ac mewn swyddi proffesiynol a thechnegol cysylltiedig (18%).
Pan ofynnwyd iddynt ddiffinio'r heriau hyn o ran sgiliau, dywedodd nifer helaeth (74%) o'r ymatebwyr fod diffyg sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i gyflawni'r rôl ymysg gweithwyr newydd. Dilynwyd hyn gan sgiliau datrys problemau (19%) a sgiliau cyfathrebu (16%).
Mae dadansoddiad39 o'r sgiliau caled a meddal mwyaf cyffredin sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y sector a oedd yn recriwtio rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019 yn cadarnhau'r canfyddiadau hyn:
38 https://www.openaccessgovernment.org/gender-gap-manufacturing-careers/63766/ 39 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector



















































































   36   37   38   39   40