Page 37 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 37

 Mae'r sector deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch yn parhau'n ysgogwr economaidd pwysig i ranbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Gan ddatblygu ar dreftadaeth gyfoethog Cymru yn y diwydiant trwm, mae cynyrchioldeb y sector yng Nghymru yn uwch na chyfartaledd y DU, gyda chyfanswm o 19,281 o swyddi amser llawn a rhan-amser. Mae hyn 17% uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y swyddi canlynol:
• Cynhyrchu metel a ffitwyr cynnal a chadw (1,270)
• Rheolwyr cynhyrchu a chyfarwyddwyr gweithgynhyrchu (1,112)
• Masnachau weldio (1,073)
• Gosodwyr peiriannau metel a gweithredwyr gosodwyr (748)
• Gweithredwyr peiriannau a gwaith metel (662)
Mae'r sector yn disgwyl twf o 0.5% rhwng 2019 a 2022, o'i gymharu â chyfartaledd cenedlaethol o 1.1%. Mae 37,254 o swyddi yn y sector ynni, sy'n golygu ei fod yn sector cyflogaeth allweddol i'r rhanbarth, er bod y ffigur hwn 11% islaw'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y swyddi canlynol:
• Trydanwyr a gosodwyr trydanol (1,812)
• Plymwyr a pheirianyddion gwresogi ac awyru (1,342)
• Rheolwyr cynhyrchu a chyfarwyddwyr adeiladu (1,029)
Mae'r sector yn disgwyl twf o 2% rhwng 2019 a 2022, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol o 1.2%.
37
 3.1 Deunyddiau, Gweithgynhyrchu ac Ynni Uwch
 Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
   Sir
Ceredigion
Powys
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
Maint y Busnes
Micro
4 13 10 16
Bach Canolig Mawr
200 3 3 2 622 7102 1012 1532
Cyfanswm
6
21
20
35
21
28
7
138
                                  Abertawe 10
Castell-nedd Port Talbot 8
Arall 0025 Cyfanswm 61     43   21   13
              Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector




























































   35   36   37   38   39