Page 39 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 39

 39
   Sgiliau Caled Mwyaf Cyffredin
Sgiliau Meddal Mwyaf Cyffredin
  Peirianneg
Gweithgynhyrchu
Rheoli
Cynnal a chadw
Arbrofi
Adfer systemau cyfrifiadurol Hyfforddiant
Gosodiadau (â llaw / mecanyddol) Gweithrediadau
Recriwtio
Arweinyddiaeth Amserlennu Arwain Llythrennedd Dysgu Dibynadwyedd Cydlynu Cadernid Moeseg Gwrando
                   Dywedodd 47% o'r ymatebwyr eu bod yn cael trafferth recriwtio ar gyfer rolau penodol. Nodwyd bod peirianwyr medrus yn anodd eu recriwtio, yn ogystal â gwneuthurwyr, gweithredwyr peirianwaith, datblygwyr meddalwedd, dylunwyr CAD (Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur), syrfewyr meintiau, a gyrwyr cerbydau nwyddau mawr a cherbydau nwyddau trwm.
Dros gyfnod o ddeuddeg mis rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019, canolrif y cyfnod hysbysebu swydd yn y diwydiant oedd 29 o ddiwrnodau. Mae hyn yn hwy na chanolrif y cyfnod hysbysebu ar gyfer pob swydd a chwmni arall yn y rhanbarth, sy'n arwydd o'r posibilrwydd fod y sector yn wynebu heriau ychwanegol o ran recriwtio gyda chynnydd uchel yn yr hyn a ystyrir yn swyddi gwag ‘anodd eu llenwi’.40
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Dywedodd 67% o'r ymatebwyr nad ydynt yn wynebu rhwystrau rhag hyfforddiant. Dywedodd y 33% sy'n wynebu'r rhwystrau hynny mai cyllid ar gyfer hyfforddiant (49%), neilltuo amser staff (45%) a thrafferth yn dod o hyd i ddarparwyr a all gynnal hyfforddiant ar adeg sy'n gyfleus iddynt (27%) oedd y prif rwystrau y maent yn eu hwynebu.
Dywedodd mwyafrif (71%) y busnesau nad oeddent yn ymwybodol o'r rhaglenni cyllid sydd ar gael yn y rhanbarth i'w helpu â hyfforddiant. O ganlyniad, mae'n amlwg fod angen sicrhau y caiff busnesau eu cyfeirio at y rhanddeiliaid perthnasol fel y gallant helpu gyda'r broblem hon.
40 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector
















































































   37   38   39   40   41