Page 46 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 46

 46
 Dim ond 25% a nododd colli staff a sgiliau, sy'n awgrymu nad yw'r sector yn y rhanbarth yn dibynnu'n fawr ar weithwyr o dramor. Nid yw hyn yn awgrymu, yn dibynnu ar bolisïau mewnfudo, y gallai'r sefyllfa newid pe câi carfanau mawr o weithwyr eu colli o ardaloedd eraill, gan achosi effaith wactod, ac, yn dilyn hynny, gwei- thwyr yn symud o'r rhanbarth i wrthbwyso'r golled hon. Gallai hyn gael effaith niweidiol ar y diwydiant ar lefel leol.
Y Gymraeg
Dim ond dau ymatebydd i'r arolwg a nododd fod y Gymraeg yn fwlch sgiliau. Nododd trafodaeth yn y grŵp clwstwr eu bod yn ystyried yr iaith yn rhywbeth dymunol yn hytrach na'n rhywbeth hanfodol i weithrediad beunyddiol eu busnes. Maent yn teimlo nad oes angen datblygu darpariaeth ddwyieithog neu ddarpariaeth uniaith Gymraeg ar gyfer y sector.
Blaenoriaeth
Dylai'r diwydiant gael gwell mewnbwn i’r holl elfennau ar sgiliau'r diwydiant. Mae hyn yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddatblygu'r cwricwlwm a fframweithiau a darparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd fel y'i nodwyd yn gynharach yn y proffil o'r sector trwy'r dull o ddadansoddi gwerth y broses.
3.3 Diwydiannau Creadigol, Digidol a TGCh
Diwydiannau Creadigol
Y diwydiannau creadigol yw un o'r sectorau sy'n tyfu fwyaf yng Nghymru; mae ganddynt drosiant blynyddol o £1.9 biliwn ac maent yn cyflogi 58,000 a mwy o bobl, sef 52% yn fwy na'r nifer a gyflogwyd ddeng mlynedd yn ôl.49
Mae'r rhanbarth yn hybu 9,583 o swyddi amser llawn a rhan-amser ac mae disgwyl twf o 11.3% rhwng 2019 a 2022, o'i gymharu â thwf o 3% ar lefel genedlaethol.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y sectorau canlynol:
• Rhaglenwyr a gweithwyr proffesiynol datblygu meddalwedd (867)
• Gweithwyr proffesiynol technoleg gwybodaeth a thelathrebu (636)
• Rheolwyr arbenigol TG (442)
• Dylunwyr systemau, penseiri a dadansoddwyr busnes TG (330)
• Rheolwyr datblygu busnes a chyfrifon gwerthiannau (285)
TGCh
Mae 9,225 o swyddi amser llawn a rhan-amser yn y sector yn y rhanbarth, ac mae disgwyl i dwf gyrraedd 11.3% rhwng 2019 a 2022.
Yn debyg i sector y diwydiannau creadigol uchod, mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y sectorau canlynol:
• Rhaglenwyr a gweithwyr proffesiynol datblygu meddalwedd (959)
• Gweithwyr proffesiynol technoleg gwybodaeth a thelathrebu (768)
• Rheolwyr arbenigol TG (632)
• Rheolwyr datblygu busnes a chyfrifon gwerthiannau (395)
• Dylunwyr systemau, penseiri a dadansoddwyr busnes TG (389)
 49 https://tradeandinvest.wales/key-industries/creative-industries
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector









































































   44   45   46   47   48