Page 47 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 47

 47
 Tystiolaeth Cyflogwyr - Proffil yr Ymatebwyr
   Sir Maint y Busnes
Micro
Ceredigion 8
Cyfanswm
    Bach Canolig Mawr
    0 0     0 8 4 0     0 18 2 0     0 14 2 0     0 12 9 0     0 34 1 1     0 9
Dywedodd 57% o'r ymatebwyr mai sicrhau gwaith oedd y brif her a dywedodd 29% mai honno oedd creu elw. Dilynwyd hyn gan heriau economaidd/ariannol (24%), hyfforddiant (23%) a datblygu staff (23%).
Mae 93% o'r busnesau yn y sectorau hyn sy'n gweithredu yng Nghymru'n fusnesau maint sero neu'n ficrofusnesau. Gallai'r heriau a nodir uchod fod yn fwy niweidiol ac yn waeth i ficrofusnesau a busnesau bach gan na allant fanteisio ar raddfa fel y gall cwmnïau mawr ei wneud.
Gallai natur gyflym y sectorau (yn enwedig o ran datblygu technoleg) gynyddu'r pwysau ar ficrofusnesau a busnesau bach i hyfforddi staff er mwyn cadw'n gyfoes â thirwedd newidiol eu diwydiant. Daw hyn yn bwysicach pan allai microfusnesau a busnesau bach roi mwy o bwyslais ar hyfforddiant a datblygu'r staff sydd ganddynt yn hytrach na recriwtio mwy o weithwyr sy'n meddu ar y sgiliau dymunol gan y gall hyn yn aml fod yn heriol ac yn gostus.
Y Gweithlu
Dywedodd mwyafrif yr ymatebwyr fod eu gweithlu'n weddol gytbwys o ran y rhywiau.
Parodrwydd am Waith
Dywedodd mwyafrif (65%) yr ymatebwyr fod gweithwyr newydd yn eu gweithlu'n barod am waith. Dywedodd y 35% sy'n weddill fod gweithwyr newydd yn tueddu i beidio â meddu ar y sgiliau neu'r profiad gwaith dymunol.
Dim ond 10% a ddywedodd nad oes gan weithwyr newydd y cymwysterau y mae busnesau'n eu dymuno, sy'n awgrymu bod y ddarpariaeth bresennol yn diwallu anghenion cyflogwyr o ran achrediad.
    Powys
Sir Benfro
Sir Gaerfyrddin
14 12 10
            Abertawe 25
Castell-nedd Port Talbot 7
Arall 00011 Cyfanswm 76     18   1   1 96
             Heriau
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector










































































   45   46   47   48   49