Page 49 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 49

 49
 Dywedodd y rheiny sy'n cael trafferth fod galw am ddylunwyr gwe, datblygwyr meddalwedd, technegwyr, gweithredwyr cynhyrchu, detholwyr lluniau a pheirianwyr.
Dros gyfnod o ddeuddeg mis rhwng mis Ionawr 2018 a mis Ionawr 2019, roedd y canlynol yn wir o ran patrymau hysbysebu swyddi:51
   Diwydiant
Swyddi cyfrifiadureg
Swyddi'r celfyddydau creadigol
Rhwystrau rhag Hyfforddiant
Hysbysiadau Swyddi Unigryw
1,563 1,757
Canolrif y Cyfnod Hysbysebu
25 o ddiwrnodau 28 o ddiwrnodau
      Nododd 31% o'r ymatebwyr rwystrau rhag hyfforddiant. Dywedodd y rheiny na allant neilltuo amser staff, mae diffyg cyllid ar gyfer hyfforddiant ganddynt, neu maent yn cael trafferth dod o hyd i ddarparwyr hyfforddiant sy'n gallu darparu'r hyfforddiant dymunol ar adeg sy'n gyfleus iddynt.
Unwaith eto, gellir priodoli'r rhwystrau hyn i'r ffaith fod mwyafrif y busnesau'n fusnesau maint sero neu'n ficrofusnesau, felly gallai rhyddhau'r staff am hyfforddiant fod yn rhy niweidiol i weithrediad beunyddiol y busnes. Mae hyn yn ymwneud yn uniongyrchol â busnesau sy'n cael trafferth dod o hyd i ddarparwyr ar adeg gyfleus i'r busnes. Gallai dull mwy hyblyg o ddarparu hyfforddiant, e.e. cyrsiau ar-lein, cyrsiau o bellter, cyrsiau rhan-amser neu gyrsiau byr, leddfu'r pwysau ar fusnesau o ran rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant.
Prentisiaethau
Nid yw mwyafrif helaeth yr ymatebwyr (88%) yn cyflogi prentisiaid. Mae 70% o'r busnesau hyn yn beio hyn ar fethiant fframweithiau prentisiaeth i ddiwallu anghenion y busnes. Yn ogystal â hyn, mae 25% yn ansicr ynglŷn â'r broses o ran cynnal prentisiaeth. Mae'n amlwg fod angen gwaith pellach er mwyn sicrhau y caiff anghenion cyflogwyr eu hystyried yn y gwaith o ddatblygu fframweithiau.
Yn ogystal â hynny, dylid deall yn well addasrwydd (ar gyfer cyflogwyr) y prentisiaethau gradd digidol presennol sy'n cael eu treialu yn y rhanbarth. Mae'r tri llwybr wedi'u halinio i feysydd sy'n tyfu: peirianneg meddalwedd gymhwysol, gwyddoniaeth data gymhwysol a rheolaeth seiberddiogelwch gymhwysol, a groesawir gan y Bartneriaeth.
Brexit
Mae mwyafrif yr ymatebwyr (38%) yn rhagweld na fyddant yn wynebu unrhyw heriau o ganlyniad i Brexit. Mae'r rheiny sy'n rhagweld heriau'n teimlo mai costau cynyddol fydd eu her fwyaf (30%), a dilynwyd hyn gan drafferthion allforio/mewnforio (23%) a chyllid (21%).
Blaenoriaeth
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi’n diwallu anghenion cyflogwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddarpariaeth TGCh a digidol, lle mae angen adlewyrchu cyflymder datblygiadau yn briodol.
 51 Dadansoddiad y Bartneriaeth o ddadansoddeg hysbysebu swyddi EMSI
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector













































































   47   48   49   50   51