Page 50 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 50

 50
 3.4 Y Sector Bwyd a Thir
Y Sector
Mae'r sector rheoli bwyd a thir yn rhan sylweddol o economi Cymru sy'n cwmpasu rhan fawr o'r gadwyn cyflenwi bwyd a diod. Mae'n cynnwys cynhyrchu cynradd ac amaethyddiaeth yn ogystal â gweithgynhyrchu bwyd a diod a'r is-sectorau coedwigaeth, coed a phren, a garddwriaeth. Dyma faes lle mae gan y rhanbarth bresenoldeb cryf yn draddodiadol yn ogystal â nifer o frandiau a chynhyrchwyr sydd wedi ennill eu plwyf. Mae'r sector bwyd a diod yng Nghymru'n werth £6.1 biliwn a chyflogir 223,000 o bobl yn y sector yng Nghymru.
Mae cyfraniad ffermio i lesiant economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol Cymru'n unigryw a heb ei ail, fel y'i nodir yn adroddiad diweddaraf NFU Cymru. Â ymlaen i nodi'r canlynol:
• ‘Cyflenwad parhaus o fwyd diogel a fforddiadwy o ansawdd uchel y mae cwsmeriaid yn ymddiried ynddo. Heb waith cynhyrchu domestig, byddem yn tanseilio diogelwch ein bwyd, gan ddibynnu ar fewnforion a gynhyrchir i wahanol safonau o ran yr amgylchedd a lles ac o dan systemau diogelwch bwyd nad oes
gennym unrhyw reolaeth drostynt.
• Y deunyddiau crai ar gyfer diwydiant bwyd yng Nghymru sy'n cyflogi bron chwarter miliwn o bobl ac sy'n
werth £6 biliwn a mwy i economi Cymru, sef cyflogwr mwyaf Cymru.
• Ein cefn gwlad annwyl - mae ffermwyr yn rheoli ac yn gofalu am fwy nag 80% o arwynebedd tir Cymru ac
mae ganddynt rôl allweddol o ran cynnal a gwella ein hamgylchedd naturiol a thirwedd werthfawr Cymru;
yn hanfodol, mae hyn yn ategu sectorau strategol bwysig eraill i Gymru, megis twristiaeth.
• Cymunedau gwledig sy'n ffynnu - mae ffermio yng Nghymru'n darparu cyflogaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol ac yn ysgogi twf economaidd mewn cymunedau gwledig, ac mae'n rhan graidd o
gymunedau lleol, yn wahanol i unrhyw ddiwydiant arall.
• Mae ffermwyr Cymru'n allweddol o ran hyrwyddo a gwarchod ein diwylliant, ein treftadaeth a'r Gymraeg.52
Mae 36,048 o swyddi yn y sector amaethyddol ac mae'r ffaith fod y ffigur hwn 305% uwchlaw'r cyfartaledd cenedlaethol yn cadarnhau ei bwysigrwydd strategol. Mae rhagamcaniadau'n awgrymu y bydd y sector yn elwa o dwf o 6.5% rhwng 2019 a 2022, o'i gymharu â'r twf cenedlaethol a ragamcenir, sef 1.1%.
Mae cyflogaeth ar ei huchaf yn y swyddi canlynol:
• Ffermwyr (16,032)
• Gweithwyr fferm (5,413)
• Rheolwyr a pherchenogion mewn amaethyddiaeth a garddwriaeth (1,271)
• Garddwyr a garddwyr tirwedd (1,031)
• Pysgota a swyddi amaethyddol elfennol eraill (589)
 52 https://www.nfu-cymru.org.uk/nfu-cymru/documents/domestic-agricultural-policy-cymru-online/
53 Sy'n cyflogi o leiaf 2,000 o unigolion
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Proffiliau Sector










































































   48   49   50   51   52