Page 6 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 6

 6
 Dewisiadau Dysgu a Gyrfa
Mae canfyddiadau o'r hyn y mae'r Bartneriaeth yn tybio eu bod yn ‘sectorau blaenoriaeth’ yn dal i fod yn fater o bwys. Mae nifer o sectorau yn adrodd bod hyn yn rhwystr allweddol o ran recriwtio a chadw unigolion. Yn anffodus, mae'r Bartneriaeth yn ystyried bod y sectorau hynny sy'n ddeniadol i ddysgwyr yn orlawn ac mae angen ail-gydbwyso addysg bellach a'r cynnig dysgu yn y gwaith er mwyn sicrhau bod gan y sectorau blaenoriaeth hyn gynnig darpariaeth sy'n ddigonol, amrywiol ac addas.
Yn ogystal, ceir diffyg dealltwriaeth am lwybrau dysgu gwahanol, sy'n gwaethygu'r heriau o ran recriwtio a chadw ymhellach.
3. Cefnogi darparwyr i farchnata'r cyrsiau hynny sy'n ‘anodd eu llenwi’ sy'n alinio i feysydd blaenoriaeth drwy rannu gwybodaeth am y farchnad lafur gyda thimau marchnata a phenaethiaid cwricwlwm.
4. Cynyddu pa mor gydradd yw’r parch a roddir i lwybrau dysgu gwahanol, gan ganolbwyntio ymyriadau ar gynyddu’r ddealltwriaeth o brentisiaethau fel llwybr dysgu posibl gyda dysgwyr a dylanwadwyr.
5. Datblygu amrediad o adnoddau sy'n hyrwyddo sectorau lle ceir canfyddiadau gwael yn ddigonol a rhannu'r wybodaeth hon gyda rhanddeiliaid perthnasol.
Cyfleoedd a Darpariaeth
6. Cynorthwyo partneriaid i ddatblygu cwricwlwm sy'n addas at y diben, gan sicrhau y caiff darpariaeth newydd ei hwyluso a’i darparu mewn meysydd lle nad yw'r adnoddau mae eu hangen ar gael ar hyn o bryd.
7. Gweithio'n agosach gyda chyflogwyr i nodi darbodion maint o ran bylchau sgiliau sy'n benodol i sectorau er mwyn datblygu darpariaeth briodol i ddiwallu'r anghenion hyn.
8. Sicrhau bod y llais rhanbarthol yn cael ei gynnwys ym mhob polisi sy'n perthyn i
gyflogadwyedd a sgiliau.
Bydd cyfleoedd sylweddol yn cael eu cyflwyno i'r rhanbarth a'i bobl gan y doreth o brosiectau mawr sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos.
9. Parhau i alinio gweithgarwch a darpariaeth i brosiectau uchelgeisiol a mawr ar raddfa fawr.
Gwnaeth nifer o gyflogwyr nodi materion y gallai'r Bartneriaeth a'i phartneriaid fynd i'r afael â nhw.
10.Bydd y Bartneriaeth yn dadansoddi'r wybodaeth uniongyrchol a gasglwyd ymhellach er mwyn deall lle y gellir cefnogi cyflogwyr ymhellach gan y Bartneriaeth neu ei sefydliadau partner.
Amlygwyd problemau gan sawl cyflogwr o ran pa mor addas at y diben oedd nifer o fframweithiau prentisiaeth.
11. Bydd y Bartneriaeth yn hwyluso trafodaethau rhwng partneriaid a chyflogwyr perthnasol er mwyn sicrhau bod sylfaen gynrychioliadol o ddiwydiant yn bwydo i mewn i’r broses o ddatblygu fframweithiau.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol
















































































   4   5   6   7   8