Page 7 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 7

 7
 Blaenoriaethau Diwydiant
Deunyddiau, Gweithgynhyrchu ac Ynni Uwch
Sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu ar sail anghenion cyflogwyr, gan ganolbwyntio ar y canlynol:
• hyfforddiant sy'n benodol i ddiwydiant
• cynyddu nifer y llwybrau dysgu STEM ar bob lefel
• gwella sgiliau sylfaenol
• ehangu'r defnydd o brentisiaethau
• hyrwyddo gyrfaoedd mewn peirianneg a diwydiannau sy'n gysylltiedig â STEM
Adeiladu
Dylai diwydiant gael rhagor o fewnbwn i bob elfen sgiliau'r diwydiant. Mae hyn yn cynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) ddatblygu’r cwricwlwm a fframweithiau a darparu cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd, fel sydd wedi'i nodi yn gynharach ym mhroffil y sector drwy ddull gweithio dadansoddi gwerth y broses.
Diwydiannau Creadigol a TGCh
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi'n diwallu anghenion cyflogwyr. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i TGCh a darpariaeth ddigidol, lle mae angen adlewyrchu cyflymder datblygiadau yn briodol.
Bwyd ac ar y Tir
Mae angen sicrhau bod y sector yn cael ei hyrwyddo'n effeithiol er mwyn chwalu’r camsyniadau sy'n bodoli i'r rheini mewn ysgolion cynradd ac uwch. Bydd hyn yn lliniaru rhywfaint ar yr heriau o ran recriwtio a wynebir gan y sector. Mae gofyniad hefyd i ddatblygu darpariaeth addysg bellach o fewn y sector cynhyrchu bwyd gan nad oes darpariaeth yn cael ei chynnig ar hyn o bryd.
Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
Mae angen i berthynas weithio agosach gael ei meithrin rhwng y diwydiant a darparwyr er mwyn sicrhau bod cynnwys cyrsiau a mecanweithiau cyflenwi'n diwallu anghenion cyflogwyr.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae ar y sector angen cymorth ar gyfer hyfforddiant staff er mwyn sicrhau cymhwysedd i gofrestru. Byddai ymgyrch wedi'i thargedu i hyfforddi'r gweithwyr trwy raglen wedi'i hariannu'n rhoi hwb i'r sector ac yn diogelu ei ddyfodol er mwyn iddo allu ateb y galw am ofal a chymorth yn y cartref.
Hamdden, Twristiaeth a Manwerthu
Mae angen sicrhau bod gan y rhai sy'n gadael addysg parodrwydd am waith a sgiliau sylfaenol i wneud cyfraniad dilys at sefydliadau unigol a'r sector yn gyffredinol. Gellir cyflawni hyn drwy wneud profiad gwaith estynedig a sgiliau sylfaenol yn flaenoriaeth yn y cwricwlwm.
Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae angen i wasanaethau cyhoeddus gael mwy o lais am sut y cyflawnir hyfforddiant a bod y fframweithiau yn addas at y diben.
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Crynodeb Gweithredol











































































   5   6   7   8   9