Page 74 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 74

 74
 Mae'r byd yn newid yn gyflym, sy'n golygu wrth gwrs fod newid mawr ar y gorwel i Gymru ac, o ganlyniad, i ranbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Mae'r hyn y byddwn ni'n ei wneud â'r newidiadau hynny fel rhanbarth yn dibynnu ar ba mor barod ydym ni i liniaru'r heriau a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd.
4.1 Y Boblogaeth
Mae'r boblogaeth fyd-eang ar gynnydd, a rhagwelir y bydd yn parhau i gynyddu am y dyfodol y gellir ei ragweld. Rhagwelir mai'r DU fydd y wlad fwyaf yn Ewrop (heblaw am Rwsia) yn ystod yr hanner can mlynedd nesaf.73 Rhagwelir hefyd y bydd poblogaeth Cymru'n parhau i gynyddu oddeutu 4% dros yr 20 mlynedd nesaf, sydd gyfystyr ag oddeutu 3.25 miliwn o bobl erbyn 2036.
Mae llawer o ffactorau'n cyfrannu at hyn, megis cyfradd ffrwythlondeb uwch, disgwyliad oes uwch, a lefelau uwch o ymfudo. Yn rhanbarthol, y cynnydd yn y boblogaeth sy'n heneiddio a fydd yn bennaf gyfrifol am hyn, gyda chyfran gynyddol o'r boblogaeth dros 65 oed. Yn ôl y rhagolygon, bydd cyfran y rhai hynny dros 65 oed wedi cynyddu 37% erbyn 2041 (o'i chymharu â'r ffigurau ar gyfer 2017), a bydd llai o'r boblogaeth o oed gweithio (16-64 oed). Yn ogystal â hyn, dengys yr un rhagolygon y disgwylir y bydd 25% yn fwy o bobl 80 oed a hŷn yn ystod y deng mlynedd nesaf, a thros 80% yn fwy o bobl o'r oedran hwn dros y 25 mlynedd nesaf.74
O safbwynt rhanbarthol sy'n seiliedig ar y rhagolygon o'r tueddiadau cyfredol, nodir y bydd Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe yn gweld cynnydd yn eu poblogaeth, a bydd Powys a Sir Benfro yn gweld gostyngiad yn eu poblogaeth hyd at 2039.
Y Sectorau sy'n Debygol o Gael eu Heffeithio Fwyaf
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n anochel y bydd disgwyliad oes uwch a phoblogaeth sy'n heneiddio yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd gan y Sefydliad Iechyd, mae costau gofal yn cynyddu'n sylweddol ag oedran, ac mae mwy o weithgarwch ynghyd â mwy o gostau yn golygu pwysau sylweddol. Awgryma mynegai o wariant ar gyfer meysydd triniaeth unigol mai triniaethau nad ydynt yn rhai dewisol, gofal cymunedol a thriniaethau dewisol fydd yn gweld y twf blynyddol cyfansawdd mwyaf hyd at 2030, o'u cymharu â'r maes 'mamolaeth', a fydd, yn ansyfrdanol, yn gweld y twf lleiaf.
Os bydd y tueddiadau'n parhau, bydd llai o anhwylderau anadlol, arthritis ac afiechydon y galon, ond mwy o lawer o achosion o ddementia. Yn ôl astudiaeth ddiweddar, gan y rhagwelir y bydd nifer y bobl hŷn yn cynyddu, gallem weld 50,000 o bobl 65 oed neu'n hŷn yn byw â dementia yng Nghymru, gyda bron 25% o'r rhain yn bobl 90 oed neu'n hŷn.75
Adeiladu
Bydd newid demograffig yn dylanwadu ar y galw am dai, yn enwedig pan ystyrir newidiadau yng nghyfansoddiad cartrefi hefyd. Yng Nghymru, rhagwelir y bydd nifer y cartrefi'n cynyddu'n gynt na'r boblogaeth rhwng 2016 a 2039 (ar sail 2014). Mae'n anochel y bydd hyn yn cynyddu'r galw ar y sectorau adeiladu a pheirianneg. Rhagwelir y bydd nifer y cartrefi un person yn cynyddu mwy na (ac yn mynd y tu hwnt i) nifer y cartrefi dau berson. Noda'r amcangyfrifon o'r angen am dai fod angen 8,300 o dai arnom bob blwyddyn ar gyfartaledd am y pum mlynedd nesaf. Erbyn canol y 2030au, amcangyfrifir y bydd angen hyd at 6,500 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn.
73 Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig
74 https://www.slideshare.net/YstadegauCymru/tueddiadaur-dyfodol-llywodraeth-cymru-2017-poblogaeth 75https://gweddill.gov.wales/statistics-and-research/general-medical-services-contract/?skip=1&lang=cy
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Y Dyfodol




















































































   72   73   74   75   76