Page 75 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 75

 Awdurdod Lleol
Abertawe
Sir Gaerfyrddin Ceredigion
Sir Benfro
Powys
Castell-nedd Port Talbot
2014 – 2024 (% y cynnydd yn y nifer rhagweledig o gartrefi)
17% 11% 5-10% 5-10% 5-10% 1-5%
75
               4.2 Yr Economi a Seilwaith
Mae'r economi yng Nghymru yn cael ei dylanwadu'n fawr gan ffactorau allanol fel y newidiadau a'r amrywiadau economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol a brofir yng ngweddill y DU a'r byd yn gyffredinol. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf, mae'r DU wedi bod yn syrthio fwyfwy i lawr y tablau cynghrair byd-eang am gynnyrch domestig gros o ran maint cyffredinol yr economi. Un rheswm mawr am hyn yw'r ffaith fod economïau llai aeddfed, e.e. gwledydd E776 yn cau'r bwlch rhyngddyn nhw a'r economïau hynny a ddatblygodd ynghynt, e.e. gwledydd G7.77 Nid yw hwn yn bryder mawr, fodd bynnag, oherwydd mae maint cyffredinol economi gwledydd yn llai pwysig i lesiant na mesurau megis incwm y pen ac ati, ac mae'r DU yn perfformio'n weddol dda yn y maes hwn yn gyffredinol.
Mae'r cyfraddau twf economaidd wedi gostwng ers y dirwasgiad yn 2008, yn rhannol am fod cynhyrchiant wedi arafu, ac, yn anffodus, mae Cymru wedi'i heffeithio'n benodol gan hyn. Gwyddys nad yw gwerth ychwanegol gros Cymru yn cyrraedd cyfartaleddau'r DU o hyd, ac mae'r tueddiad hwn yn gwaethygu yn sgil lefel uwch o boblogaeth ddibynnol a diffyg màs economaidd.
Mae'r tueddiadau'n dangos symudiad amlwg tuag at economi sy'n seiliedig ar wasanaethau, ac mae hyn wedi'i adlewyrchu gan dwf economaidd. Yn yr hirdymor, mae rôl manwerthu wedi bod yn lleihau yn y gwledydd mwyaf datblygedig, ac mae'r tueddiad hwn yn debygol o barhau. Mae hyn wedi bod yn arbennig o anodd i Gymru gyda'i gwreiddiau cryf hanesyddol mewn diwydiannau trwm.
 76 Tsieina, India, Brasil, Rwsia, Indonesia, Mecsico a Thwrci
77 Yr Unol Daleithiau, Japan, yr Almaen, y DU, Ffrainc, yr Eidal, Canada
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Y Dyfodol



















































































   73   74   75   76   77