Page 77 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 77

 77
 Mae'r rhain yn ymwneud â swyddi yn y sectorau cludiant a storio, gweithgynhyrchu, a chyfanwerthu a gweithgynhyrchu. Mae'r rhagfynegiadau hyn yn codi cwestiynau penodol i ni fel rhanbarth, gan ystyried bod 24% o'r gweithlu'n cael eu cyflogi mewn galwedigaethau 'cyfanwerthu, manwerthu, trafnidiaeth, gwestai a bwyd’ a 10% ohonynt yn cael eu cyflogi o fewn y sector 'cynhyrchu'. Yn ogystal, dim ond cymwysterau Lefel 2 ac is sydd gan y rhan helaeth o'r boblogaeth oed gweithio.
Nid yw'r rhagfynegiadau hyn o reidrwydd yn golygu y bydd nifer fawr o swyddi'n cael eu colli ar unwaith o'r farchnad lafur o ganlyniad i awtomeiddio a newidiadau technolegol. Yn hytrach, gan ystyried ei natur fel aflonyddwr pwerus, bydd dynameg y farchnad lafur yn newid, gan olygu y bydd mathau newydd o swyddi yn cael eu creu. Felly, mae'n hanfodol fod y Bartneriaeth yn parhau â'i waith o nodi anghenion sgiliau cyflogwyr o fewn y rhanbarth a hwyluso'r sgwrs ganlyniadol rhwng cyflogwyr a darparwyr. Bydd hyn yn lleihau'r pwysau a osodir ar y sectorau hynny a nodwyd uchod ac yn cefnogi eu gweithle i addasu ac arallgyfeirio yn ôl yr angen.
4.4 Yr Amgylchedd
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy o sylw'n cael ei roi i'r heriau amgylchedd byd-eang mwyaf dybryd sydd nid yn unig yn bygwth ein ffordd o fyw ar hyn o bryd, ond sydd hefyd yn bygwth bodolaeth wirioneddol cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r heriau byd-eang hyn yn cynnwys adnoddau naturiol prin, diraddiad ecosystemau a bioamrywiaeth, a'r newid yn yr hinsawdd.80
Rhoddir pwyslais ar ddatblygu economi gylchol i gefnogi'r uchelgeisiau o greu Cymru carbon isel. Mae hyn yn golygu bod gwerth cynhyrchion, deunyddiau ac adnoddau'n cael ei gadw o fewn yr economi am gyn hired â phosibl a gwastraff yn cael ei leihau. Yn ymarferol, mae hyn yn ymwneud â chyflawni newidiadau i effeithlonrwydd adnoddau a deunyddiau ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi, ochr yn ochr â rheoli'r gwastraff ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.
Mae gan hyn oblygiadau ar sgiliau, o ran y ffaith y bydd yr arloesedd sylfaenol sydd ei angen i ddatblygu'r economi gylchol hon yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau, o'u gweithrediad a gweithgarwch bob dydd i'r gweithlu sy'n eu cefnogi.
Mae'r cyfleoedd gwaith yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r economi gylchol hon yn cynnwys:
• Dulliau adeiladu tai newydd
• Dylunio a chynhyrchu cynhyrchion newydd - mae angen i waith dylunio cynnyrch ystyried mwy o wydnwch,
y gallu i'w drwsio a'r gallu i'w ailgynhyrchu
• Mwy o gyfleoedd o fewn y sectorau trwsio ac ailddefnyddio
• Cyfleoedd o fewn y maes gweithgynhyrchu sy'n defnyddio adnoddau'n effeithiol
Amaethyddiaeth
Bydd hinsawdd sy'n newid, ynghyd â phoblogaeth sydd ar gynnydd, yn arwain at bwysau sylweddol ar gynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
'...yr heriau i'n system cynhyrchu bwyd fyd-eang yn y dyfodol, gan gynnwys hinsawdd sy'n newid, poblogaethau ar gynnydd yn y DU ac yn fyd-eang, newidiadau dietegol, a phrinder adnoddau fel tir a dŵr. Gan ystyried ei hinsawdd a faint o law y mae'n ei chael, rhagwelir y bydd Cymru yn un o'r ardaloedd cynhyrchu a ffefrir yn y dyfodol. Bydd yn anochel y bydd gan ffermwyr Cymru rôl allweddol i'w chwarae - yn wir, cyfrifoldeb - dros fwydo pobl Cymru a chyfrannu at ddiogelwch bwyd byd-eang, nawr ac yn y dyfodol’81
80 https://www.wcpp.org.uk/wp-content/uploads/2018/04/The-Future-of-Work-in-Wales.pdf
81 https://www.nfu-cymru.org.uk/nfu-cymru/documents/domestic-agricultural-policy-cymru-online/
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Y Dyfodol
















































































   75   76   77   78   79