Page 82 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 82

 82
 adeiladu dyfeisiau morol, parc 22 hectar o gwmpas Canolfan Arloesedd y Bont yn Noc Penfro i gefnogi busnesau sy'n tyfu, uchelgeisiau i adeiladu gwesty a datblygiad diwydiannol a masnachol ar Ystad Ddiwydiannol Priory Park, a chanolfan rhagoriaeth ynni adnewyddadwy arfaethedig ar safleoedd Waterston /Blackbridge.
Yr ardaloedd a'r safleoedd yng Nglannau Port Talbot
Ardal fenter arall yn ardal De-orllewin a Chanolbarth Cymru yw Glannau Port Talbot, sydd eisoes yn gartref i weithlu medrus iawn ac amrywiaeth eang o sectorau – gan gynnwys y sectorau deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch, ynni a’r amgylchedd, ac adeiladu. Mae yma harbwr dwfn a chysylltiadau rheilffordd a ffordd gwych, sy’n golygu ei bod yn un o’r cyrchfannau busnes mwyaf hygyrch ac unigryw yng Nghymru.
Mae'r ffiniau ardal arfaethedig ar gyfer datblygiadau mawr yng Nglannau Port Talbot fel a ganlyn:
• Parc Ynni Baglan
• Parc Diwydiannol Baglan
• Parc Glannau'r Harbwr a Dociau Port Talbot
Mae Parc Ynni Baglan yn gartref i Ganolfan Arloesi Bae Baglan, y Ganolfan Solar, y Ganolfan Ymchwil ac Arddangos Hydrogen Adnewyddadwy, gwaith pŵer tyrbin nwy cylch cyfun General Electric a ffatri Intertissue. Mae mwy na 1,800 o bobl yn gweithio yn y parc bellach, a phan fydd y prosiect wedi'i gwblhau, bydd ganddo'r gallu i gynnig 3,000 o swyddi.
Mae Parc Glannau'r Harbwr yn rhan o brosiect Glannau'r Harbwr. Mae hen ardal ddociau’r dref yn cael ei gweddnewid yn ganolfan fusnes newydd ar gyfer cwmnïau blaenllaw, a bydd yn creu swyddi tra medrus. Mae Parc Glannau’r Harbwr yn cynnig lle i fusnesau yn y pentref ymchwil a datblygu newydd, sydd eisoes yn gartref i weithgynhyrchwyr byd-eang blaenllaw megis Tata Steel a TWI UK Ltd.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe89
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn deillio o argymhellion Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas Ranbarth Bae Abertawe 2013–2030, ac mae'n cynnwys nifer o brosiectau sy'n seiliedig ar themâu allweddol: cyflymu economaidd, gwyddorau bywyd a llesiant, ynni, a gweithgynhyrchu clyfar. Caiff yr holl brosiectau eu hystyried yn rhai mawr ac uchelgeisiol o ran y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen, y cyfleoedd gwaith a gynigir, a'r angen am sgiliau a awgrymir.
Yn unol â chymeradwyaeth achosion busnes prosiectau, caiff pob prosiect trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe ei ariannu drwy Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat a bydd yn costio oddeutu £1.3 biliwn i'w gyflawni. Yn ystod y 15 mlynedd nesaf, disgwylir y bydd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu bron 10,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel.
Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant90
Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn ddatblygiad 'unwaith mewn cenhedlaeth' yn Llynnoedd Delta, Llanelli, a fydd yn costio oddeutu £200 miliwn. Bydd y pentref, a fydd yn un o'r prosiectau adfywio mwyaf yng ngorllewin Cymru, yn rhannu safle 35 hectar gyda'r sector cyhoeddus (Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Bwrdd Iechyd), y byd academaidd, y sector preifat a'r sector gwirfoddol. Y pentref hwn fydd y cyntaf o'i bath yng Nghymru, a bydd yn cynnwys y canlynol:
89 http://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/media/1045/gd4610-sbcd-strategy-board_welsh.pdf 90 Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr


















































































   80   81   82   83   84