Page 83 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 83

 • Hwb Llesiant modern, a fydd yn cynnwys pwll nofio wyth lôn 25m o hyd, pwll hydrotherapi, neuadd chwaraeon wyth cwrt, swît ffitrwydd, stiwdios amlbwrpas, a man chwarae i blant.
• Canolfan Datblygu Busnes gyda chyfleusterau deori/cyflymu busnes a chyfleusterau ymchwil a datblygu, sydd wedi'u targedu at y sector gwyddorau bywyd.
• Canolfan Addysg Llesiant a fydd yn cynnig cyfleoedd addysgu ffurfiol a lleoliadau ar draws amrediad o feysydd pwnc, ac a fydd yn gysylltiedig ag anghenion cyfredol y gweithlu iechyd a gofal a'r prinder sgiliau. Bydd y Ganolfan Addysg Llesiant yn cynnwys swît ymarfer ac efelychu.
• Canolfan Darpariaeth Glinigol i gynnig gofal modern yn agosach i gartref mewn lleoliad cymunedol amlddisgyblaeth. Bydd y Ganolfan Darpariaeth Glinigol yn cyfuno gofod hyfforddi ochr yn ochr ag ystafelloedd clinigol i greu ardal ar gyfer addysg a thriniaeth cleifion.
• Canolfan Ymchwil Glinigol a fydd yn gysylltiedig â phedwar ysbyty cyfansoddol Hywel Dda er mwyn trosi gwaith ymchwil yn ddarpariaeth ac addysg ar yr un pryd, heb oedi a chyda mireinio parhaus.
• Amrywiaeth o letyau byw â chymorth, gan gynnwys cartref nyrsio a chyfleusterau gofal ychwanegol.
• Tai preswyl a thai fforddiadwy/cymdeithasol.
• Gwesty Llesiant sydd â rhwng 60 a 90 gwely o'r safon uchaf, a fydd wedi'i anelu at y farchnad dwris
tiaeth llesiant sy'n datblygu ac a fydd yn cynnig y ddarpariaeth orau ar gyfer gorffwys, adfer ac ymlacio.
Gyda'i gilydd, bydd y cyfleusterau hyn yn darparu'r canlynol:
• Creu swyddi (1,853 ar draws y rhaglen Bargen Ddinesig 15 mlynedd) mewn ardal o amddifadedd acíwt
• Amrediad o wasanaethau llesiant integredig, gan gynnwys atal a hybu iechyd, er mwyn gwella iechyd a
llesiant y boblogaeth
• Peiriannau profi ar gyfer cwmnïau ar y safle, a fydd yn galluogi cynhyrchion/gwasanaethau i gael eu
datblygu gydag adborth amser real (megis technolegau byw â chymorth)
Mae'r gwaith o ddylunio datblygiad Cam 1 y Pentref Llesiant ar waith, a gobeithir cyflwyno'r gwasanaethau/ cyfleusterau ar-lein yn 2021.
Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau91
Nod prosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau yw cefnogi twf gweithgareddau gwerth ychwanegol uwch (yn enwedig gweithgareddau seiliedig ar dechnoleg) drwy greu'r canlynol:
Pentref Blychau ac Ardal Arloesedd ar gampws newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar Lannau Abertawe SA1. Hwb deori yw'r Pentref Blychau sy'n cynnig gweithfannau gyda gwasanaethau a rennir a fydd yn darparu amgylchedd meithringar i fusnesau newydd, gyda mynediad i arbenigedd, mentoriaid a buddsoddwyr prifysgol. Bydd yr Ardal Arloesedd yn ofod cwbl integredig a rennir, a fydd yn cyfuno'r cymorth academaidd gan y brifysgol ag arloesedd busnes busnesau bach a chanolig.
Bydd Pentref Digidol, ar Ffordd y Brenin yng nghanol Dinas Abertawe, yn darparu 100,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa gyda band eang cyflym i wasanaethu busnesau technoleg cynyddol Abertawe. Bydd y Pentref Digidol yn gatalydd ar gyfer datblygiad newydd ar Ffordd y Brenin dan arweiniad y sector preifat a fydd yn creu Rhanbarth Busnes Canolog newydd yng nghanol Dinas Abertawe. Dechreuwyd ar y gwaith o alluogi'r seilwaith ar gyfer y Pentref Digidol ym mis Ebrill 2018.
Sgwâr Digidol ac Arena Ddigidol gyda lle i 3,500 o bobl a fydd yn darparu cyfleusterau cynadledda a gofod digwyddiadau mawr ar gyfer diwydiannau technoleg a’r prifysgolion. Bydd yr arena o fewn Sgwâr Digidol newydd modern yng nghanol Dinas Abertawe er mwyn creu cyrchfan nodweddiadol ac unigryw. Mae'r prif gontractwr ar gyfer y cynllun wedi'i benodi ac mae'r gwaith adeiladu wedi dechrau ar y safle.
83
  91 *Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect*
Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr











































































   81   82   83   84   85