Page 85 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 85

 85
 Prosiect Morol Doc Penfro93
Bydd prosiect Morol Doc Penfro’n adfywio rhan o Ddoc Penfro er mwyn creu safle penodol a gaiff ei ddefnyddio gan ddatblygwyr ynni morol fel man i ddatblygu eu dyfeisiau o syniadau i gynhyrchion masnachol. Yn ogystal â'r gweithgareddau gweithgynhyrchu uwch presennol sy'n digwydd yn yr ardal oherwydd y sector olew a nwy, bydd y safle'n caniatáu i ddatblygwyr arbrofi, gweithgynhyrchu a chynnal dyfeisiau ynni adnewyddadwy ar y môr a chaiff ei hybu gan y gwaith o ddatblygu'r hyn a elwir y pedwar piler:
• Ardal Brofi Ynni Morol (META) arfaethedig – cyfres o fannau ar hyd y ddyfrffordd lle gall datblygwyr roi prawf ar ddyfeisiau ar adeg gynnar yn y broses ddatblygu.
• Safle a ganiateir ar raddfa eang sy'n gysylltiedig â'r grid yw Parth Dangos Ynni Tonnau Sir Benfro, a gyflwynir gan Wave Hub Limited, ac mae'n targedu technolegau tonnau a gwynt arnofiol. Bydd datblygwyr yn defnyddio'r safle arfaethedig i arbrofi ac asesu dichonoldeb masnachol sawl uned o
eneraduron a gysylltir yn fasnachol.
• Bydd cynllun arfaethedig Adeiledd Doc Penfro, a gyflwynir gan Borthladd Aberdaugleddau, yn creu
ardaloedd mawr cynllun agored o saernïo a gosod ac ardal trosglwyddo o'r tir i'r môr i ddiwallu anghenion diwydiant modern. Bydd hyn yn galluogi'r capasiti presennol i weithio i ddarbodion maint, nad yw’n bosibl ar hyn o bryd.
• Dyhead y Ganolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol, a weithredir gan ORE Catapult, yw creu man lle gellir rhannu capasiti, profiad, adnoddau a gwybodaeth arbenigol rhwng datblygwyr presennol a datblygwyr y dyfodol.
Gydag arwyddion clir y crëir rhagor o swyddi ym meysydd deunyddiau, gweithgynhyrchu ac ynni uwch, dylai gyrfaoedd effeithiol sy'n ymwneud â phynciau STEM fod ar gael i ddysgwyr er mwyn ateb galw'r prosiect hwn o ran sgiliau. Gan ddatblygu etifeddiaeth Sir Benfro ymhellach o ran cynnal busnesau llwyd- diannus eraill yn yr un sector, bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd newydd i weithlu lleol gyda sgiliau trosglwyddadwy mewn deunyddiau, gweithgynhyrchu ac ynni uwch.
Seilwaith Digidol94
Bydd y prosiect Seilwaith Digidol yn gwella mynediad cefn gwlad i fand eang, mynediad i wasanaethau ffibr cyflym a mynediad cynnar i dechnolegau symudol newydd, megis 5G, ledled rhanbarth Bae Abertawe. Bydd y gwaith yn targedu ardaloedd gwledig a threfol a chaiff busnesau bach, arloesedd a throsglwyddo sgiliau eu cynnwys yn rhan o'r prosiect.
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer95
Nod y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yw sicrhau cartrefi clyfar, carbon isel, ynni effeithlon trwy gydlynu ledled y Ddinas Ranbarth. Bydd y prosiect yn hwyluso'r gwaith o gyflwyno rhaglen o ddatblygu adeiladau newydd, gwaith ôl-osod mewn adeiladau presennol, a chymorth i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi leol.
Nod y prosiect yw:
• helpu i fynd i' afael â thlodi tanwydd
• torri allyriadau carbon
• diwallu'r angen am fwy o dai
Bydd y prosiect yn monitro agweddau iechyd a llesiant ar gartrefi cynhesach a lleihau tlodi tanwydd.
93 https://www.marineenergywales.co.uk/marine-energy-in-wales/projects/pembroke-dock-marine/ 94 *Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect*
95 *Gwybodaeth wedi'i derbyn gan gynrychiolydd o'r prosiect*
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr













































































   83   84   85   86   87