Page 87 - Y Cynllun Cyflogaeth a Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer De-orllewin a Chanolbarth Cymru 2019
P. 87

 87
 Pan gaiff ei gwblhau, bydd y prosiect hwn yn cyd-fynd â phrosiect Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf a'r prosiect Gwyddor Dur, gan gynnig cyfleusterau a chyfleoedd hyfforddiant i unigolion. Awgrymir cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer rolau sy'n cynnwys technolegau clyfar ac, felly, mae angen gwell ffocws er mwyn datblygu darpariaeth hyfforddiant bresennol a newydd er mwyn diwallu'r anghenion o ran sgiliau yn y dyfodol yn y meysydd hyn.
Ymyriad Sgiliau a Thalent97
Bydd Menter Sgiliau a Thalent, dan arweiniad y Bartneriaeth, yn tanategu pob prosiect Bargeinion Dinesig. Nod y prosiect yw rhoi llwybr mewn ysgolion a cholegau i bobl ifanc leol er mwyn iddynt allu manteisio ar y 10,000 o swyddi uchel eu hansawdd a gynigir dros y 15 mlynedd nesaf trwy amryw brosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
Cynhaliwyd y gwaith archwilio hwn gydag arweinwyr prosiect er mwyn deall y sgiliau sydd eu hangen gan bob un o'r prosiectau a gwnaed hyn yn unol â gwaith gydag ysgolion a cholegau i nodi cyfleoedd lle byddai cyllid yn helpu i ddatblygu sgiliau allweddol i fodloni gofynion newidiol y prosiectau o ran sgiliau ar gyfer y dyfodol. Mae ymgysylltu â busnesau wedi arwain at nodi rhai meysydd lle gellid datblygu hyfforddiant sgiliau penodol (nad yw ar gael ar hyn o bryd) trwy'r prosiect y gellid ei ymgorffori wedyn yn y cwricwlwm cyffredin ar gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Dulliau newydd o adeiladu tai modiwlaidd
• Sgiliau digidol a TG nad ydynt yn cael eu cyflenwi ar hyn o bryd er mwyn diwallu anghenion newidiol
busnesau, gan gynnwys gor-realaeth
• Sgiliau peirianneg
• Technolegau morol
Rhanbarth Canolbarth Cymru
Tyfu Canolbarth Cymru98
Partneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys Ceredigion, Powys a Llywodraeth Cymru, yw Tyfu Canolbarth Cymru, a sefydlwyd yn 2015. Gweledigaeth y bartneriaeth yw “hybu swyddi, twf a’r economi ehangach yn rhanbarth canolbarth Cymru”.99
Mae’r prosiectau a nodir isod wrthi'n destun trafod; mae rhai'n cael eu gweithredu ac eraill wedi'u cwblhau'n ddiweddar. Disgwylir i'r prosiectau hyn gael effaith economaidd fawr ar economi leol Canolbarth Cymru, Ceredigion a Phowys, o ran creu swyddi a'r galw am sgiliau newydd.
Beacon+100
Prosiect dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru yw Canolfan Ragoriaeth Bio-furo BEACON, sef canolfan arobryn sydd wedi cael ychydig dros £12.2 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae'r fenter hon yn gweithio ym maes trawsnewid biomas a biowastraff yn gynhyrchion bioseiliedig gyda rhaglenni masnachol. Mae BEACON yn cynnig mynediad i sylfaen ymchwil, arbenigedd a gwybodaeth prifysgolion Cymru i fusnesau a sefydliadau sydd â buddiannau yn y sector biofuro. Mae'r rhain yn amrywio fel a ganlyn: agrogemegion, biodanwyddau, bioblastigion, gorchuddion ac adlynion, cosmetigau a gofal personol, olewau hanfodol, ireidiau, deunyddiau maethol-fferyllol, pecynnau, deunyddiau fferyllol, polymerau arbenigol, arwynebyddion, trin elifion a dŵr.
97 https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/amdanom-ni/
98 http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s68161/Adroddiad.pdf
99 https://cy.powys.gov.uk/media/6953/Cylch-Gorchwyl-Tyfu-Canolbarth-Cymru-drafft
-terfynol/pdf/ToR_GMW_Final_Draft_revised_for_Sept15_cy.pdf?m=1540376786757 100 http://beaconwales.org/
 Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau De-orllewin a Chanolbarth Cymru Prosiectau Uchelgeisiol a Mawr














































































   85   86   87   88   89