Page 14 - Spring 2022 Community Newsletter (WEL)
P. 14

Pa mor lân yw ein strydoedd?                                                                                               Helpwch ni i ledaenu’r gair!




      Yn       ddiweddar,           lansiwyd         ein       •   Roedd  sbwriel  diodydd  yn  dal  ar
      hadroddiad  Pa  Mor  Lân  Yw  Ein                        lefelau  cyn  y  pandemig  ac  wedi  ei                           Helpwch ni i fynd i’r afael â’r

      Strydoedd? sydd yn rhoi ‘cipolwg’ ar                     ganfod ar 44% o strydoedd.                                        materion  sbwriel  hyn  trwy

      sbwriel a materion eraill yn ymwneud                                                                                       lawrlwytho                deunyddiau’r
      ag ansawdd amgylcheddol.                                 •   Sbwriel  smygu  yw’r  math  mwyaf                             ymgyrch  a  dod  yn  rhan  o

                                                               cyffredin  o  sbwriel,  sydd  yn  cael  ei                        #CaruCymru

      Rydym wedi cynnal arolygon glendid                       ganfod ar 74.6% o strydoedd.
      strydoedd ym mhob awdurdod lleol                                                                                           Rydym  newydd  ddathlu  pen-

      ers 2007-08.  Yna mae ein Tîm Polisi                     •  Cafodd sbwriel PPE ei gynnwys yn                               blwydd  cyntaf  Caru  Cymru  –

      anhygoel  yn  dod  â  data  ynghyd                       yr  arolygon  sbwriel  stryd  am  y  tro                          ein menter fwyaf erioed i fynd
      o’r  holl  arolygon  i  greu  darlun  o                  cyntaf.  Canfuwyd masgiau ar 8% o                                 i’r afael â sbwriel a gwastraff.

      un  flwyddyn  i’r  llall  o  gyflwr  ein                 strydoedd (tua 10,700 o fasgiau wedi

      strydoedd.                                               eu taflu fel sbwriel).                                            Y weledigaeth yw i Caru Cymru
                                                                                                                                 gael ei ryngblethu i fywyd yng

      Ein  hadroddiad  annibynnol  yw’r                        •   Cofnodwyd  baw  cŵn  ar  8%  o                                Nghymru, fel ei fod yn dod yn

      cyntaf o’i fath ers dechrau pandemig                     strydoedd – y ffigur isaf ers i arolygon                          ail natur i bawb wneud y peth

      COVID-19.                                                glendid strydoedd ddechrau yn 2007-                               iawn, o fynd â sbwriel gartref a
                                                               08.                                                               glanhau ar ôl eich ci, i ailgylchu

      Dyma’r penawdau:                                                                                                           ‘wrth  fynd’,  ailddefnyddio  ac

                                                                            Ewch i’n gwefan am fwy                               atgyweirio.

      •  Canfuwyd  sbwriel  deunydd  pacio                                  o wybodaeth
      bwyd a diod ‘wrth fynd’ ar 64.2% o                                                                                         I helpu pawb i ledaenu’r gair,

      strydoedd ar draws y wlad yn 2021-                                                                                         rydym wedi creu siop un stop

      22.                                                                                                                        ar  gyfer  ymgyrchoedd  Caru
                                                                                                                                 Cymru,  lle  gallwch  addasu,

                                                                                                                                 lawrlwytho             ac        argraffu
                                                                                                                                 deunyddiau am ddim.









                                                                                                                                           Ewch i becyn cymorth yr

                                                                                                                                           ymgyrch heddiw
   9   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19