Page 8 - Spring 2022 Community Newsletter (WEL)
P. 8
Canllaw defnyddiwr ar adrodd ar-lein Cliciwch ar y fideo isod i wylio tiwtorial byr
Rydym yn annog gwirfoddolwyr i ddefnyddio ein system adrodd ar-lein am
ddim, sef Epicollect5. Mae’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi o gymorth
i ni ddatblygu darlun Cymru gyfan o’r gweithgaredd sydd yn digwydd a’r
problemau yr ydych yn eu hwynebu.
Mae’n gyflym ac yn hawdd defnyddio Epicollect5 – gallwch ddewis p’un ai i
gofnodi eich gweithgaredd tra byddwch allan neu lanlwytho’r canlyniadau yn
nes ymlaen trwy’r wefan.
1. Lawrlwytho’r ap
Mae Epicollect5 ar gael ar gyfer ffonau Android a llechi, iPhones ac iPads.
Mae’r ap AM DDIM a gallwch ei ddefnyddio ar gymaint o ddyfeisiadau ag y
dymunwch.
2. Ychwanegu eich prosiect
• Ychwanegwch eich prosiect ar y ddyfais
• Cliciwch “Ychwanegu prosiect” ar yr ap
• Chwiliwch am eich prosiect
• Tapiwch arno i’w lawrlwytho
3. Casglu data
• Dewiswch y prosiect ac ychwanegwch wybodaeth
• Casglwch ddata ar-lein neu all-lein
• Lanlwythwch eich data i’r gweinydd pan fyddwch ar-lein
• Edrychwch ar ein data a’i lawrlwytho o’r gweinydd