Page 15 - Llyfr Gwaith Cartref 2017
P. 15

Beth dan ni’n mynd i’w goginio heddiw?
Dyma ryseitiau gan ddosbarth Sylfaen y cwrs preswyl ym mis Awst. Ond beth
sydd yn y sosban?
Rysait Amy a Diane
1. Llenwch y sosban efo dŵr
2. Rhowch y sosban ar y gwres.
3. Berwch y dŵr
4. Gwnewch dwll bach mewn ŵy
5. Defnyddiwch lwy fawr i roi’r ŵy yn y dŵr
6. Gadewch yr ŵy yn y dŵr am dair munud.
7. Ar ôl tair munud, tynnwch y sosban o’r gwres.
8. Tynnwch yr ŵy allan o’r dŵr efo llwy fawr.
9. Rhowch yr ŵy mewn cwpan ŵy.
10. Tynnwch ben yr ŵy.
11. Bwytwch yr ŵy efo llwy de a milwyr tôst
12. Peidiwch â bwyta’r blisgen!
   10   11   12   13   14   15   16   17   18   19   20