Page 16 - Llyfr Fflip Dosbarth Mynediad 1 Catrin
P. 16
A. Helo, s’mae.
B. S’mae.
A. Sut dach chi heno?
B. Wedi blino, a chithe?
A. Dw i’n iawn.
B. Be’di’ch enw chi?
A. Emma, pwy dach chi?
B. Chris. Lle dach chi’n byw?
A. Yn Rhuddlan. Lle dach chi’n byw?
B. Yng Ngwallt Melyd. Lle dach chi’n gweithio?
A. Dw i’n gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd.
B. A finne! Be dach chi’n neud’na?
A. Ysgrifenyddes feddygol. A chithe?
B. Meddyg dw i, efo’r Adran Anestheteg a gofal critigol.
A. Dach chi’n sengl?
B. Yndw. Dach chi’n briod?
A. Nac’dw.
B. Dach chi’n licio ffilmia?
A. Nac’dw. Dach chi’n mwynhau rhaglenni cerddorol?
B. Yndw, ond dw i’n casáu’r X-Factor.
A. A finne. A fedra i ddim diodde Piers Morgan.
B. Ych a fi! Chris ac Emma
16