Page 3 - Gyrfaoedd Cyffrous ar Stepen Eich Drws
P. 3
Beth yw Bargen Ddinesig Bae Abertawe?
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn ystod o brosiectau a raglenni mawr ledled Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe.
Mae'r rhaglenni a'r prosiectau hyn yn cynnwys: Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau, Canolfan S4C Yr Egin, Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer, Ardal Forol Doc Penfro, Campysau, Pentre Awel, Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel, a'r Rhaglen Seilwaith Digidol.
Yn ystod oes o 15 mlynedd y Fargen Ddinesig, bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb o £1.8 biliwn o leiaf i'r economi ranbarthol, gan greu mwy na 9,000 o swyddi.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r rhanbarth, a bydd galw mawr am bobl ifanc sydd â'r sgiliau cywir.
Bydd y gyrfaoedd a fydd ar gael yn lleol yn perthyn yn fras i'r categorïau canlynol:
Adeiladu Gwyrdd Iechyd a Llesiant Gweithgynhyrchu Clyfar Ynni
Digidol
Gyda llawer o alw am sgiliau megis Rheoli Prosiectau, Peirianneg neu Sgiliau Digidol y gellir eu trosglwyddo ar draws yr holl sectorau.
*Trosolwg yn unig yw hwn o'r gyrfaoedd sy'n dod yn fwyfwy ar gael yn y rhanbarth, ac
mae llawer mwy!*
Gyrfaoedd Cyffrous ar Stepen Eich Drws 1