Page 4 - Gyrfaoedd Cyffrous ar Stepen Eich Drws
P. 4
Adeiladu Gwyrdd
Mae adeiladu gwyrdd yn ddull cynaliadwy o adeiladu sy'n ceisio lleihau effaith negyddol adeiladu ar yr amgylchedd a sicrhau'r manteision cadarnhaol mwyaf posibl. Mae'n canolbwyntio ar leihau ôl troed carbon y prosesau cyfredol, gan wneud y defnydd gorau posibl o ddŵr, deunyddiau crai, ynni a thir dros gylch bywyd cyfan yr adeilad. Mae'r Prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer ar flaen y gad yn y sector hwn sy'n datblygu'n gyflym.
Mae'r gyrfaoedd y mae galw amdanynt yn y sector hwn yn cynnwys:
Peiriannydd Pwmp Gwres Syrfëwr Adeiladu
Swyddog Gwrthbwyso Carbon Syrfëwr Meintiau
Labrwrs
Dylunydd Trefol
Rheolwr Prosiect
Swyddogion Datblygu Cynaliadwy Gwneuthurwr Gwaith Dur Strwythurol
Bydd galw bob amser am y crefftau traddodiadol ym maes adeiladu, ond trwy ymgorffori sgiliau gwyrdd yn eich hyfforddiant, bydd mwy o gyfleoedd ar gael.
2 Bargen Ddinesig Bae Abertawe