Page 5 - Brecon 1st XV v Ystalyfera
P. 5

   Tymor Newydd o heriau mewn tiriogaethau anghyfarwydd ...
Diolchwn i’r Aelodaeth am roi’r cyfle hwn i ni yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol diweddar yn cynnwys nifer teilwng ohonynt, ac rydym ni’n ymwybodol o’r ffaith fod y Clwb yn canfod ei hun mewn sefyllfa o fod wedi mwynhau llwyddiannau ar y maes chwarae, ac oddi arno, yn ystod y blynyddoedd diweddar.
I ryw raddau, cododd y cyfleoedd hyn yn sgil ymddeoliad ein Cadeirydd diweddar, Paul Amphlett. Mae Paul wedi bod yn rhan annatod o’r llwyddiant y mae’r clwb wedi ei fwynhau yn sgil ei arweinyddiaeth gref wrth hyrwyddo’r adran Iau a Minis, a hefyd wrth helpu i lywio’r clwb ar ei daith drwy Strwythur Cynghrair URC. Rydym yn ddyledus iddo.
Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol, un o’r penderfyniadau sylfaenol a wnaed oedd yr un mewn perthynas â sut mae’r clwb yn strwythuro’i hun, a’r model gweithredu y mae’n dewis ei ddefnyddio wrth adeiladu ar y llwyddiannau hynny. Roedd y rhesymwaith y tu ôl i hynny’n adlewyrchu safle’r Clwb yn Strwythur y Gynghrair gyda’r angen i ddarparu cyfle i wella a datblygu’n barhaus i’n Haelodau sy’n Chwarae, a’r angen am sylfaen fasnachol fel ein bod ni’n gallu gweithredu mewn marchnad sy’n gynyddol heriol ar gyfer ein gweithgareddau oddi ar y cae, ac mewn ffordd nad yw’n gwanhau’r profiadau cadarnhaol presennol y mae defnyddwyr y Ty Clwb yn eu mwynhau.
Eto i gyd, mae ein hymrwymiad i ddarparu
cyfle i aelodau sy’n chwarae i geisio bod y gorau gallant fod yn eu chwaraeon dewisol yn parhau’n swyddogaeth graidd i ni, waeth beth yw eu rhywedd, oedran neu allu. Rydym ni’n hynod o falch o dwf cynyddol y niferoedd sy’n chwarae - o’r plant O Dan 7 i fyny at yr Uwch sgwad.
O ran yr elfen olaf hon, canfyddwn ein hunain mewn tiriogaethau anghyfarwydd o ran y clwb, sef sefyllfa sy’n rhagori ar yr hyn a gyflawnwyd gan Glwb Rygbi Aberhonddu drwy gydol y 150+ o flynyddoedd o’i fodolaeth. Ar y cyd â’r anwybod cyfredol a ddaw o’r safle dyrchafedig pleserus hwn yn Strwythur y Gynghrair, mae’r ffaith y byddwn ni bellach fel Tîm yn mynd ati i chwarae yng Ngorllewin y Pencampwyr.
Cawn y cyfle ffantastig i ymweld â phorfeydd newydd siroedd gorllewinol Penfro, Sir Gâr a Cheredigion, yn ychwanegol at wibdeithiau i Abertawe, Port Talbot a Chymoedd Tawe, Aman a Llynfi.
Mae’r grwp Hyn wedi bod yn gweithio’n
galed iawn yn hyfforddi cyn dechrau’r tymor o dan arweiniad y Cyfarwyddwr Rybgi, Dale Mackintosh, a’i dîm hyfforddi a chefnogi medrus. Mae lefel dechnegol uchel yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu gan y
grŵp hwn ar y cyd ag ymdrechion ymroddedig y sgwad chwarae yn angenrheidiol i alluogi ein timau i gael y sgiliau angenrheidiol a’r lefelau ffitrwydd i fwynhau eu heriau newydd ar y maes chwarae. Mae’r Clwb yn parhau’n ymroddedig i gefnogi uchelgais ein Uwch Grŵp Chwarae, ac edrychwn ymlaen at brofiadau newydd cadarnhaol ar hyd ein taith ddiweddaraf.
for the latest news go to www.breconrfc.co.uk
 






















































































   3   4   5   6   7