Page 6 - Brecon 1st XV v Ystalyfera
P. 6

  Ni ellir dianc rhag y ffaith fod cyfeiriad y Timau Hŷn yn darparu model ac ysbrydoliaeth i’n haelodau iau sy’n chwarae, ac mae’r uchelgais gasgliadol hon a’r ymroddiad at ‘achos’ Aber- honddu’n parhau’n hanfodol i alluogi’r Clwb i symud ymlaen mewn sawl ffordd.
Croesawn a diolchwn am ymdrechion yr holl hyfforddwyr a rhieni sy’n hebrwng ein haelodau iau ar hyn y bryd, o dan gyfarwyddyd Al Taylor, ac edrychwn ymlaen at weld parhad i’r dalent dros y blynyddoedd nesaf.
Fel erioed, mae llwyddiant a gweithrediad y Clwb yn gynaliadwy’n unig drwy ymroddiad parhaus ein corff o Aelodau ac edrychwn ymlaen at weithio â phawb i gynnal y llwyddiant a’r mwynhad hwnnw.
Yn yr un modd, mae’n dyled ni’n fawr i gefnogaeth a haelioni’n Noddwyr, am eu bod yn parhau’n gonglfaen o ran galluogi cyfleoedd i gael eu darparu i’r Aelodau sy’n Chwarae, o bob oed.
Wrth edrych ymlaen yn eiddgar at ein hymweliadau â phorfeydd newydd, rydym ni’n gobeithio y byddwch chi’n parhau i gefnogi’r tîm, ac yn yr un modd, edrychwn ymlaen at groesawu wynebau newydd i Barc de Pugh, a gwneud ffrindiau newydd drwy gydol y tymor. Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i’n tref ac i’n Clwb, ac rydym ni’n siwr y byddwch yn cael mwynhad a blas ar Sir Frycheiniog o dan ofal Sharon a’i staff yn y Tŷ Clwb.
Yn olaf, diolchwn yn ddiffuant i’r holl wirfoddolwyr eraill sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi’r Clwb, a gobeithio y gwelwn ni lawer mwy ohonoch chi yn ystod y tymor.
Julian Edwards
Llywydd, Brecon RFC.
Andy Lewis
Cadeirydd, Brecon RFC.
  
























































































   4   5   6   7   8