Page 11 - business_courses_welsh
P. 11

ANTUR YN YR AWYR
Dyddiad Dydd Iau 29 Hydref 6pm-9pm
Lleoliad Canolfan Gymunedol a Ieuenctid Llan-gors Tiwtoriaid Techniquest&HuwJames
Beth am ychwanegu at eich gwybodaeth am yr Awyr Dywyll drwy dreulio awr yng nghwmni Techniquest yn y planetariwm yn dysgu beth sydd i’w weld yn awyr y gaeaf.
Bydd hyn yn cynnwys anturiaethau mawr yn yr awyr y gallwch eu hyrwyddo i’ch ymwelwyr yn 2016.
Yna treuliwch awr gyda Huw James yn edrych ar y gwahanol ffyrdd y gallwch gyfathrebu a chyflwyno eich gwybodaeth am yr awyr dywyll i ymwelwyr.
Planetariwm Techniquest
Archwiliwch awyr y nos gyda Starlab Techniquest – Planetariwm 360° ysblennydd gyda thafluniad digidol cromen gyfan o ansawdd uchel. Bydd y cyflwyniad 40 munud yn rhoi golwg fanwl ar yr awyr uwchben y Parc Cenedlaethol yn ogystal â golwg ddyfnach ar Gysawd yr Haul. Dysgwch am fythau a chwedlau, y prif blanedau a’r sêr a’r prif uchafbwyntiau seryddol i’r flwyddyn sydd ar ddod.
Noddwyd y gweithgaredd hwn yn rhannol gan Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru
Offer gwych i gyflwyno Seryddiaeth
Anturiaethwr, seryddwr ac yn frwdfrydig am yr
awyr agored, mae Huw James yn gyflwynydd ac yn ymgyrchydd brwd dros gyfranogiad y cyhoedd mewn gwyddoniaeth a bywyd yn yr awyr agored. Mae wedi gwneud cannoedd o ymddangosiadau ar lwyfan ac ar sgrin yn cyflwyno ei egni a’i frwdfrydedd a gellir ei weld yn perfformio mewn nifer o wyliau gwyddoniaeth a digwyddiadau ar draws y DU. Yn wreiddiol fe’i hyfforddwyd mewn gwyddoniaeth ofodol, mae’n gymrawd o’r Gymdeithas Seryddiaeth Frenhinol ac mae Huw
yn ddringwr creigiau, syrffiwr, mabolgampwr ac anturiaethwr. Mae’n cyfuno’r holl ddiddordebau hyn i greu ei agwedd unigryw sy’n ysbrydoli pobl o bob oedran am wyddoniaeth y bydysawd a’r byd naturiol. Mae ganddo Fedal Aur mewn siarad cyhoeddus o Academi Cerdd a Drama Llundain. Bydd Huw yn ein tywys drwy ei focs offer dirgel o gyfathrebu seryddiaeth fel y gallwch chi gyflwyno’r wybodaeth ymlaen i’ch gwesteion ac ymwelwyr.


































































































   9   10   11   12   13