Page 13 - business_courses_welsh
        P. 13
     ANTUR Y PEDAIR SGWD
Dyddiad DyddMawrth3Tachwedd10am-4pm
Lleoliad Bws mini yn gadael Pencadlys y Parc Cenedlaethol,
Ffordd Cambria i Faes Parcio Gwaun Hepste. Tiwtor Alan Bowring
Bro’r Sgydau yw un o’r lleoedd mwyaf poblogaidd y mae ymwelwyr yn holi amdano ac yn ymweld ag ef...
Mae’n amhosibl gwahanu dŵr o dirwedd Cymru – pa un ai yw’n tryddiferu’n ddirgel, yn llifo’n hamddenol, yn rhaeadru’n osgeiddig neu’n ffrydio’n wyllt, mae’n newid yn dragwyddol ac yn adnewyddu ein hamgylchedd.
Bydd y diwrnod hwn yn eich helpu i ymgyfarwyddo ag arbenigrwydd pob un o’r pedair sgwd:
• Sgwd yr Eira
• Sgwd y Pannwr
• Sgwd Isaf Clun-Gwyn
• Sgwd Clun Gwyn
Mae’r sgydau hyn yn cynnig antur unigryw i’n hymwelwyr; bydd y diwrnod hwn yn eich galluogi i helpu eich ymwelwyr a’ch gwesteion i’w mwynhau i’r eithaf. Byddwch angen dod â phecyn bwyd a diodydd, yn ogystal ag esgidiau cerdded a dillad addas ar gyfer taith gerdded egnïol 5.5 milltir.
Noddwyd y gweithgaredd hwn yn rhannol gan Gronfa Ymgysylltu â Thwristiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru
DEWCH Â CHINIO






